Cwpan Rygbi'r Byd: Merched Cymru 12-44 Seland Newydd

Cymru v Seland Newydd Image copyright Rex Features
Image caption Mae Seland Newydd wedi bod yn bencampwyr y byd ar bedwar achlysur

Cafodd Cymru gweir gan Seland Newydd yn eu gêm gyntaf yng Nghwpan Rygbi'r Byd ym Mharc Billings yn Nulyn ddydd Mercher.

Fe wnaeth y Crysau Duon adeiladu mantais yn gynnar gyda cheisiau gan y cefnwr Selica Winiata a'r canolwr Stacey Waaka.

Ychwanegodd yr asgellwr Renee Wickliffe ddau gais arall cyn hanner amser i'w gwneud yn 20-0 ar yr egwyl.

Mae Seland Newydd wedi bod yn bencampwyr y byd ar bedwar achlysur, ac fe ddangoson nhw pam wrth iddyn nhw ymestyn eu mantais yn yr ail hanner.

Fe wnaeth yr asgellwr Portia Woodman a'r clo Eloise Blackwell sgorio i'r Crysau Duon, cyn i Gymru gael eu pwyntiau cyntaf gydag ychydig dros awr wedi'i chwarae wrth i Elinor Snowsill drosi cais yr wythwr Sioned Harries.

Ond fe wnaeth Seland Newydd daro 'nôl yn syth gyda chais gan Winiata, cyn i gerdyn melyn i'r mewnwr Kendra Cockseage arwain at gais arall i Gymru gan y clo Melissa Clay.

Coroni eu perfformiad wnaeth Seland Newydd gydag un cais arall, wrth i Winiata gwblhau ei hatric.

Bydd Cymru'n herio Canada ddydd Sadwrn cyn wynebu Hong Kong ar 17 Awst.