Newsnight yn ymateb i feirniadaeth

Newsnight
Image caption Evan Davis oedd yn holi Julian Ruck a Ruth Dawson ar yr iaith Gymraeg

Mae'r gweinidog sydd â chyfrifoldeb am yr iaith Gymraeg, Alun Davies, wedi galw ar y BBC i ymddiheuro am ymdriniaeth rhaglen Newsnight nos Fercher o drafodaeth ar yr iaith.

Roedd y rhaglen yn ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ar eu cynlluniau i greu comisiwn i hyrwyddo a gwarchod buddiannau'r iaith Gymraeg.

Ond mae llawer wedi lleisio'u hanfodlonrwydd ar y cyfryngau cymdeithasol am safon a thrywydd y drafodaeth, yn ogystal â'r ffaith nad oedd yr un o'r ddau gyfrannwr yn siaradwyr Cymraeg.

Mae'r BBC wedi ymateb i'r feirniadaeth drwy ddweud eu bod yn "difaru" peidio cael "trafodaeth fwy trwyadl" ar y pwnc.

Image caption Mae Julian Ruck yn dadlau fod llawer gormod o arian y trethdalwyr yn mynd ar yr iaith Gymraeg

Y ddau a gafodd eu gwahodd i'r drafodaeth oedd yr awdur a'r colofnydd Julian Ruck, a Ruth Dawson, golygydd Cymru o wefan newyddion The Conversation.

Dydy'r un o'r ddau yn siaradwyr Cymraeg, er i Ms Dawson ddweud eu bod yn gwybod "bore da" a'r lliwiau.

Dadl Julian Ruck oedd nad yw'r holl arian sy'n cael ei wario ar y Gymraeg yn dwyn ffrwyth, a bod llawer gormod o arian trethdalwyr yn cael eu neilltuo ar yr iaith.

Wrth amddiffyn y cynlluniau, dywedodd Ruth Dawson bod angen mwy o gefnogaeth er mwyn hyrwyddo'r iaith.

'Sarhaus'

Ond cafodd safon y ddadl, a'r ffaith nad oedd cynrychiolydd sy'n siarad Cymraeg wedi ei wahodd i gymryd rhan yn y ddadl, eu beirniadu'n hallt.

Mewn cyfweliad ar raglen y Post Cyntaf fore Iau, dywedodd Yr Athro Richard Wyn Jones fod yr eitem yn "sarhaus".

"Byswn i'n licio taswn i'n synnu," meddai, "ond dydw i ddim yn anffodus.

"Da ni di arfer efo'r math yma o agweddau yn y cyfryngau Llundeinig."


Dadansoddiad Gohebydd Celfyddau BBC Cymru, Huw Thomas

Roedd y modd mae Cymru'n cael ei phortreadu ar y BBC eisoes yn bwnc llosg cyn i Newsnight ddarlledu ei thrafodaeth ddadleuol.

Yn yr oriau cyn y darllediad, bu panel o arbenigwyr yn trafod yr angen am wella'r modd mae Cymru a'r iaith Gymraeg yn cael ei phortreadu gan raglenni teledu drwy'r Deyrnas Unedig.

Ond tra bo'r ffocws wedi bod ar y camau positif sy'n cael eu cymryd gan y BBC i wella'r sylw, mae'n ymddangos fod yr ewyllys da wedi dechrau pylu wrth i raglen Newsnight ddod i ben.

Roedd yna ymateb candryll ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda deiseb yn prysur gasglu enwau, a gwleidyddion yn galw am ymddiheuriadau.

Ond mae sawl cwestiwn yn parhau, yn eu plith: Pam dechrau gyda phennawd yn gofyn am rwystrau'r iaith? Pam dewis dau westai nad oedd yn siarad Cymraeg i drafod ei rhinweddau?

A gan fod y BBC yr wythnos hon yn cynnal ei darllediad allanol mwyaf ar wahan i Wimbledon a Glastonbury yn yr Eisteddfod, pam na ddefnyddiodd Newsnight y llwyfan hwn a'i hadnoddau i gynnal trafodaeth fwy ystyrlon?


Bu beirniadaeth chwyrn o'r cyfweliad ar wefan Twitter.

Yn dilyn y cyfweliad, cyhoeddodd yr ymgynghorydd digidol Huw Marshall ei fod wedi dechrau deiseb yn galw am ymchwiliad annibynnol o'r modd y mae'r BBC yn portreadu'r iaith Gymraeg.

Image copyright Twitter

Yn gynharach ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Mercher, dywedodd y ddarlledwraig Angharad Mair ei bod hi'n "siomedig" gyda'r ffordd y mae Cymru'n cael ei phortreadu ar y teledu.

Wrth ymateb i hynny, dywedodd Pennaeth Cynhyrchu Cynnwys BBC Cymru, Sian Gwynedd, y byddai'r cyllid ychwanegol gafodd ei gyhoeddi'n ddiweddar yn help i wella'r sefyllfa.

Mewn cyfweliad gyda Taro'r Post ddydd Iau dywedodd Alun Davies: "Mae problem gyda'r diwylliant yn y BBC yn Llundain.

"Dyw nhw ddim yn deall beth yw'r DU, dyw nhw ddim yn gwybod beth yw diwylliant y DU a dyw nhw ddim yn deall Cymru.

"Mae'r broblem yn mynd y tu hwnt i Newsnight, ond roedd Newsnight neithiwr yn adlewyrchu'r broblem. Rwy'n credu bod y broblem yn mynd ymhellach ac yn ymwneud â gwerthoedd golygyddol y BBC yn Llundain. Mae'n gwestiwn difrifol iawn iddyn nhw.

"Rwy'n gobeithio y bydd y BBC yn ymddiheuro am yr hyn wnaethon nhw neithiwr, ond hefyd mynd ymhellach i ystyried y math o ddiwylliant {o fewn y gorfforaeth} sy'n caniatáu i hyn ddigwydd."

Ymateb y BBC

Yn hwyr brynhawn dydd Iau daeth datganiad gan lefarydd ar ran y BBC yn Llundain: "Er i'r eitem hon ar yr iaith Gymraeg gynnwys safbwyntiau amrywiol, byddai trafodaeth ar bwnc o'r pwysigrwydd yma wedi elwa ar ddadansoddiad a thrafodaeth fwy trwyadl ac rydym yn difaru peidio gwneud hynny.

"Serch hynny, rydym yn credu ei bod yn bwysig i roi sylw i'r pwnc yma ac fe wnawn hynny eto yn y dyfodol."