Byddai gosod Cerrig yr Orsedd i arnofio ar ddŵr yn gostus meddai Ashok Ahir
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Symud Cerrig yr Orsedd o'r maes i ddŵr flwyddyn nesaf?

11 Awst 2017 Diweddarwyd 08:44 BST

Mae Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Caerdydd o blaid gosod Cerrig yr Orsedd i arnofio ar ddŵr yn yr eisteddfod flwyddyn nesaf.

Yn yr ŵyl i groesawu rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr ym mis Mehefin cafodd cae pêl droed ei osod ar y dŵr ym mae Caerdydd.

Mae Ashok Ahir wedi trafod y syniad gyda'r Orsedd ond yn dweud bod yna gostau ynghlwm â'r mater.

Byddai dod o hyd i noddwr yn datrys hyn meddai.