Dim undod ar Brexit o fewn Llafur medd Vince Cable

Vince Cable

Mae Llafur Prydain yn gwrth-ddweud Llafur Cymru ynglŷn â Brexit yn ôl arweinydd newydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Vince Cable.

Roedd Mr Cable yng Nghaerdydd ddydd Gwener fel rhan o daith i gwrdd ag aelodau ei blaid.

Dywedodd bod Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones ac Arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn bron iawn "mewn pleidiau gwleidyddol gwahanol" ar y mater.

Mae trafodaeth wedi bod o fewn y blaid Lafur am os ddylai Prydain aros yn rhan o farchnad sengl yr Undeb Ewropeaidd.

'Eisiau cysondeb'

Dywedodd Mr Cable wrth BBC Cymru bod Jeremy Corbyn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU er mwyn sicrhau Brexit caled.

"Dwi'n ymwybodol bod Llafur Cymru yn gwrth-ddweud hyn yn llwyr... Mae pobl eisiau cysondeb."

Yn ystod ei ymweliad dywedodd Mr Cable hefyd ei fod yn hyderus y bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn ennill tir yn y dyfodol, a hynny wedi canlyniadau siomedig yn yr etholiad cyffredinol ym mis Mehefin.

Image caption Mae James Chapman wedi dweud bod rhai Ceidwadwyr blaenllaw gyda diddordeb sefydlu plaid wleidyddol i'r canol newydd

Gofynnwyd iddo hefyd ymateb i sylwadau James Chapman, oedd yn arfer gweithio i'r Ysgrifennydd Brexit, David Davis, sydd wedi dweud bod dau o aelodau cabinet Llywodraeth y DU wedi dangos diddordeb sefydlu plaid newydd i wrthwynebu Brex

"Dwi ddim yn meddwl bod angen plaid newydd", meddai ond ychwanegodd ei fod yn hapus i gydweithio gyda phobl mewn pleidiau eraill.

"Rydyn ni'n mynd i orfod casglu grŵp o bobl, Llafur, Ceidwadwyr, cenedlaetholwyr a ni er mwyn ymladd yn erbyn deddfwriaeth niweidiol felly rydw i o blaid gweithio gyda phleidiau eraill.

"Ond rydyn ni'n blaid gyson sy'n rhybuddio yn erbyn peryglon Brexit, sy'n cynnig dewis i bobl ar ddiwedd y broses ynglŷn ag a ydyn nhw eisiau i ni aros neu adael." it.