Nathan Cleverly i ymladd ar noson Mayweather/McGregor yn Vegas

Nathan Cleverly Image copyright Getty Images

Bydd y Cymro Nathan Cleverly yn amddiffyn ei deitl WBA pwysau godrwm ('light-heavyweight') yn Las Vegas ar ddydd Sadwrn, 26 Awst.

Badou Jack, 33, o Sweden fydd ei wrthwynebydd, gyda'r ornest yn cael ei chynnal ar noson y ffeit hir ddisgwyliedig rhwng yr Americanwr, Floyd Mayweather a'r Gwyddel, Conor McGregor.

Fe enillodd Cleverly, 30, ei wregys WBA ar ôl trechu'r Almaenwr Juergen Braehmer ym mis Hydref y llynedd.