Cwis: Ble mae'r meini?

merm Image copyright David Dixon/Geograph

Mae 'na sôn y gallai cerrig yr Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol 2018 gael eu gosod ar y dŵr ym Mae Caerdydd.

Wedi'r cyfan enw'r Archdderwydd ydy Geraint Lli-fon. Ond tra bydd Meistres y Gwisgoedd yn brysur yn creu gwisgoedd nofio glas, gwyrdd a gwyn dyma brofi eich gwybodaeth o safloedd cerrig yr orsedd sydd ar dir sych!

Ers rhai blynyddoedd cerrig artiffisial symudol sy'n cael eu defnyddio yn y seremonïau. Ond ar un adeg roedd cylch o feini cerrig pwrpasol yn cael eu gosod ger lleoliad y Brifwyl y flwyddyn honno.

Mae'r cylchoedd cerrig a'u lleoliadau yn hynod debyg ond mae'r cliwiau yn unigryw! Felly dyma'ch cyfle i chi roi'ch trwyn ar y maen llôg...