Ashok Ahir: 'Eisteddfod Caerdydd yn cynnig cyfle gwahanol'

Ashok Ahir
Image caption Ashok Ahir yw cadeirydd y pwyllgor gwaith y Brifwyl yn 2018

Ar ddiwedd Eisteddfod Genedlaethol eleni, mae trefnwyr y flwyddyn nesaf yn dweud y bydd cynnal y brifwyl yng nghanol Caerdydd yn cynnig cyfle i drio "syniadau gwahanol".

Dyma'r Eisteddfod gyntaf fydd heb faes penodol, gyda'r pebyll a'r cystadlu wedi eu gwasgaru ar draws canol y brifddinas.

Mae cadeirydd pwyllgor gwaith 2018 wedi dweud bod grŵp arbennig wedi ei sefydlu er mwyn delio â heriau'r trefniant gwahanol y flwyddyn nesaf.

Wrth siarad â BBC Cymru Fyw ar ddiwedd Prifwyl eleni, dywedodd Ashok Ahir hefyd fod tua traean y targed ariannol wedi ei gyflawni hyd yn hyn.

Dywedodd Mr Ahir y byddai'n rhaid addasu wrth gynnal yr Eisteddfod mewn lleoliad mor wahanol.

"Mae'n rhaid i ni edrych ar y tir cyfan, os chi'n edrych ar y Steddfod eleni mae'n eang - yn fwy eang na'r Fenni - ond s'dim yr un maint o dir gennym ni ym Mae Caerdydd.

"Rydyn ni wedi dechrau meddwl sut allwn ni ddefnyddio adeiladau eraill neu hyd yn oed fusnesau ar gyfer rhai elfennau.

"Os chi'n edrych ar rywbeth fel Gŵyl Caeredin mae pethau'n digwydd mewn llefydd chi ddim yn disgwyl, felly mae rhai pwyllgorau wedi dechrau meddwl 'ydyn ni angen gwneud popeth yr un ffordd ydyn ni'n ei wneud pob blwyddyn?'."

Image caption Bydd nifer o ddigwyddiadau Prifwyl 2018 yn cael eu cynnal ym Mae Caerdydd

Er hynny, dywedodd y byddai'r elfennau traddodiadol yn parhau.

"Fel arfer pan mae pobl yn mynd mewn i'r maes, hyd yn oed os ydyn nhw ddim yn gwybod cynllun y Steddfod, maen nhw'n gwybod y bydd y Babell Lên yn rhywle, maen nhw'n gwybod y bydd pabell Cymdeithasau, Theatr y Maes yn rhywle, er enghraifft.

"Ni angen ffitio hyn i gyd i mewn yn y Bae, felly mae angen meddwl sut y gallwn ni greu rhyw fath o lwybr i bobl sy'n dod i'r Steddfod ddilyn - ni'n gwybod y bydd angen mwy o arwyddion.

"Ni wedi sefydlu pwyllgor arbennig - profiad ymwelwyr - i drio creu syniadau ychydig yn wahanol."

'Ychydig yn wahanol'

Ychwanegodd: "'Dyn ni'n siarad gydag artistiaid am y cyngherddau, ac yn siarad lot gyda'r cyngor, Canolfan y Mileniwm a Chomisiwn y Cynulliad, a sefydliadau eraill fel yr Eglwys Norwyeg.

"Mi fydd y Steddfod ychydig yn wahanol wrth ddefnyddio'r adeiladau yn y bae, a bydd rhaid i ni adeiladu rhai adeiladau eraill."

Daeth cadarnhad cyn y Brifwyl eleni fod pwyllgor gwaith Ynys Môn wedi casglu ymhell dros y targed gwreiddiol o £325,000.

Wrth siarad â Cymru Fyw yn Eisteddfod Môn dywedodd Mr Ahir: "O ran codi arian, 'dyn ni wedi cyrraedd traean o'r targed, ond o'i gymharu gydag Ynys Môn efallai ein bod angen bod ychydig yn fwy uchelgeisiol!"

Image caption Mae Elfed Roberts wedi dweud ei fod yn gobeithio denu cynulleidfa newydd i'r Eisteddfod

Adeg y cyhoeddi yn yr haf dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts ei fod yn gobeithio y bydd Prifwyl Caerdydd yn denu cynulleidfa newydd.

Dywedodd: "Mae'r trefniadau yn mynd yn dda, mae 'na dîm ifanc, brwdfrydig yn gweithio yma yn enw'r Eisteddfod.

Ychwanegodd ei fod yn gobeithio y bydd Eisteddfod Caerdydd yn denu ymwelwyr newydd. Mae Ashok Ahir yn ategu hynny.

Dywedodd: "I ni sy'n rhan o drefnu y flwyddyn nesa', wrth gwrs mae gennym y nod o gael pawb sy'n mynd pob blwyddyn i ddod, ond mae gennym ni gyfle i ddangos y Steddfod nid jyst i bobl Caerdydd, ond i ymwelwyr i'r brifddinas a phobl o ardaloedd arall o Gymru sydd erioed wedi bod yn y Steddfod hefyd.

"Gyda bod y digwyddiad am ddim, bydd cyfle i ni ddangos nid diwylliant y Steddfod yn unig, ond yr iaith hefyd."

Straeon perthnasol