Dau yn yr ysbyty wedi damwain ym Merthyr

Urban Street Image copyright Google

Mae dau o bobl yn cael triniaeth yn yr ysbyty wedi i dri char daro yn erbyn ei gilydd ym Merthyr Tudful.

Cafodd tŷ hefyd ei daro yn y gwrthdrawiad yn Stryd Urban, Penydarren ychydig cyn 19:15 nos Wener.

Mae dau oedolyn - un gydag anafiadau i'w wddf a'r llall yn dioddef o sioc - yn cael triniaeth yn Ysbyty'r Tywysog Charles.

Bu'n rhaid cau rhan o'r ffordd oherwydd bod niwed wedi cael ei wneud i biben nwy.