Gwrthdrawiad angheuol ym Mhen Llŷn

edern Image copyright Google
Image caption Mae'r heddlu yn ymchwilio i achos y gwrthdrawiad yn Lon Gerddi, Edern

Bu farw dyn yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd yn Edern ym Mhen Llŷn.

Cafodd y gwasanaethau eu brys eu galw i Lon Gerddi, Edern tua 19:15 nos Wener.

Bu'r ffordd ynghau am gyfnod nos Wener yn dilyn y digwyddiad.

Hyd yma dyw enw'r dyn a fu farw heb gael ei gyhoeddi.