Caerdydd 3-0 Aston Villa

gol Laing Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Mendez-Laing yn taro'r bêl heibio James Chester i gefn y rhwyd

Mae Caerdydd yn dathlu ail fuddugoliaeth y tymor yn y bencampwriaeth, wrth iddyn nhw chwalu Aston Villa.

Fe aeth tîm y brifddinas ar y blaen ar ôl 21 munud - Nathaniel Mendez-Laing yn sgorio.

Roedd Caerdydd yn haeddu'r fuddugoliaeth - gyda Junior Hollett yn effeithiol iawn ar yr asgell a Kenneth Zohore yn fygythiad cyson i gapten Villa, John Terry yn y cefn.

Yn yr ail hanner fe darodd amddiffynnwr Cymru James Chester y bar wrth i Villa bwyso am gôl.

Ond ar ôl awr fe ddaeth ail gol yr adar glas - Zohoreâ rhediad nerthol - a Hoilett yn sgorio.

Tua deg munud yn ddiweddarach fe ddaeth ail gol Mendez-Laing. Roedd y dorf o ragor na ugain mil yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn orfoleddus.

Bydd Caerdydd yn chwilio am fuddugoliaeth arall nos Fawrth pan Sheffield Wednesday fydd yr ymwelwyr.

Mae'n gynnar iawn, ond mae Caerdydd ar frig y Gynghrair nos Sadwrn.

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Nathaniel Mendez-Laing yn dathlu ar ôl sgorio ddwywaith