Crewe Alexandra 1-1 Casnewydd

casnewydd Image copyright Huw Evans picture agency

Roedd holl gyffro'r gêm hon yn yr 20 munud cyntaf.

Fe aeth Casnewydd ar y blaen, ac fe welodd un o chwaraewyr Crewe gerdyn coch - ond fe frwydrodd Crewe yn ôl i gael gêm gyfartal.

Ar ôl 13 munud fe sgoriodd Casnewydd - Frank Nouble yn hawlio'r gôl.

4 munud yn ddiweddarach fe ddanfonwyd Perry Ng o'r cae.

Ond fe sbardunodd hynny Crewe - ac ar ôl 18 munud roedden nhw'n gyfartal eto. Chris Dagnall yn sgorio i'r tìm cartref.