Syrthio mewn cariad â'r Gymraeg

Josie d'Arby
Image caption Mae Josie d'Arby yn edifar na ddaeth hi i'r Eisteddfod Genedlaethol yn gynt

Fel Cymraes ddi-Gymraeg o Gasnewydd, doedd y gyflwynwraig Josie d'Arby ddim yn credu mai rhywbeth iddi hi oedd yr Eisteddfod Genedlaethol.

Ond ar ôl wythnos ym Môn mae hi wedi cael "profiad dwfn", syrthio mewn cariad gyda'r iaith a darganfod haen arall i'w Chymreictod.

Mae'n cyflwyno Eisteddfod 2017: with Josie d'Arby ar BBC Two Wales nos Sadwrn 12 Awst.

Bu'n rhannu ei hargraffiadau gyda Cymru Fyw ar y Maes ym Modedern.

Ro'n i wrth fy modd gydag eisteddfodau yn yr ysgol, dyna oedd fy hoff ddiwrnod yn y flwyddyn. Ro'n i bob amser yn cymryd rhan - mae'r tystysgrifau yn dal gen i!

Dyna lle ges i flas ar siarad cyhoeddus a fy nghariad at y celfyddydau - drwy gael fy nghyflwyno iddyn nhw mor ifanc a chael fy annog mewn ffordd iach i gymryd rhan.

Dwi'n ddiolchgar iawn am y profiad.

Ond 'dw i ddim yn credu fy mod i wedi deall beth oedd yr eisteddfod ar lefel genedlaethol. Y cyfan wyddwn i oedd ei fod yn rhywbeth Cymraeg a bod yr iaith yn cael ei siarad yno. Felly am y rheswm yna, ro'n i efallai'n credu mai rhywbeth ar gyfer siaradwyr Cymraeg oedd e. A dydw i ddim yn siaradwr Cymraeg.

Dyna'n sicr sut oeddwn i'n meddwl am yr ŵyl pan ddes i yma.

Ac fel y trôdd hi allan, nid dyna sut mae hi.

'Calon ac emosiwn'

Yn amlwg mae 'na lefel o fynediad sydd gennych chi os ydych chi'n medru'r iaith ond mae 'na ffordd y gallwch wir fwynhau a deall heb wybod beth mae pob gair yn ei feddwl.

Image copyright Iolo Penri
Image caption Yn y rhaglen mae Josie yn cwrdd ag aelodau'r Orsedd, Penri a Mair Jones

Fe ellwch chi'n bendant ddeall calon, ysbryd ac emosion yr holl beth. A'r hwyl! Hyd yn oed pan mae pobl wedi bod yn siarad Cymraeg, dwi wedi bod yn chwerthin efo nhw, dwi'n gallu gweld yn eu tôn eu bod nhw'n cael hwyl ac yn mwynhau eu hunain.

Felly mae wedi bod ychydig yn hudolus imi yn bersonol. Rydw i'n difaru na ddes i yma'n gynt. Ro'n i jyst yn cymryd yn ganiataol nad oedd e'n rhywbeth imi.

Mae 'na lot o bobl yn gweithio yma 'dw i wedi eu 'nabod ers blynyddoedd ac wedi gwybod eu bod nhw'n mynd i weithio yn yr Eisteddfod bob blwyddyn. Eu peth nhw oedd o, felly doeddwn i byth yn holi ac efallai mai dyna pam na wnaeth neb ddweud wrtha' i amdano.

Ond pan ofynnwyd imi ddod yma eleni, ro'n i'n gwybod yn syth mod i eisiau mynd ac fe wnes i neidio ar y cyfle.

Ro'n i'n meddwl mod i'n mynd i dreulio'r wythnos yn ymddiheuro bob eiliad am beidio gwrando yn y dosbarth, felly mae wedi bod yn anhygoel i gael fy amgylchynu gan yr iaith, yn enwedig mewn maes rydw i'n ei garu - y celfyddydau.

'Perthynas newydd' gyda'r Gymraeg

Image caption Nod newydd Josie d'Arby yw dysgu 10 ymadrodd Cymraeg newydd bob mis

Mae iaith yn rhywbeth emosiynol. Pan dwi wedi deall, dwi wedi canfod bod yr hyn sy'n cael ei ddweud yn hynod o brydferth. Pan dwi heb ddeall, dwi wedi teimlo'n hynod o rwystredig ac wedi bod reit flin gyda fy hun, achos mae'r cyfleoedd yno i ddysgu, heb os.

Mae gen i ffrindiau sy'n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf ond dydi'r peth erioed wedi codi - am wn i eu bod nhw wedi cymryd yn ganiataol na fyddai'n rhywbeth fyddai o ddiddordeb imi. Ond dwi'n credu mod i'n mynd i osod ambell nod i fy hun nawr, hyd yn oed os yw'n ddim ond 10 ymadrodd newydd y mis.

I fod wedi cael profiad mor ddwfn â'r un rydw i wedi ei gael yr wythnos hon, rydw i eisiau i hyn fod yn ddechrau perthynas newydd.

Mae iaith yn gallu bod yn anodd, mae newid eich arferion yn cymryd amser hir ond mi allaf yn sicr ddweud fy mod i wedi syrthio mewn cariad gyda'r iaith. A dwi ddim yn dweud hynny mewn ffordd ysgafn, ystrydebol, achos dwi wedi bod yn gwrando o ddifri, yn gwrando'n ofalus ar y rhythm, y tôn, yr angerdd a'r llawenydd yn y ffordd mae pobl yn ei siarad.

Unwaith ddes i dros y ffaith nad oeddwn i'n mynd i ddeall popeth, ro'n i'n iawn.

Wrth glywed y cyfieithu, dyna pryd wnes i feddwl 'o, dw i yn colli allan'. Nid dim ond gwenu, nodio a phopeth ar lefel arwynebol ydi hi.

Mae beth sy'n cael ei ddweud yn wirioneddol ddiddorol, y feirniadaeth o'r farddoniaeth a'r canu corawl - mae gwybod beth sy'n cael ei ddweud yn agoriad llygad go iawn.

Stori Hedd Wyn

Ac yna stori Hedd Wyn - fe wnaeth honno fy llorio. Doeddwn i ddim yn gwybod dim amdano.

Dwi wedi teimlo cysylltiad o ddifri gyda'r stori yna yn enwedig, wedi teimlo fod gen i cysylltiad gyda Hedd Wyn a bod yna bethau sy'n gyffredin rhyngon ni.

Mi siaradais gyda Huw Garmon, yr actor sy'n ei chwarae yn y ffilm, ac mae ganddo e bethau gwahanol yn gyffredin â Hedd Wyn a dehongliad gwahanol o bwy oedd e.

Ond o'r ychydig dwi wedi ei ddysgu amdano a'r cerddi wnes i lwyddo i ddarganfod cyfieithiadau iddyn nhw fe wnes i ddarganfod dyn ysbrydol tu hwnt. Ac ar y lefel honno y gwnes i deimlo cysylltiad, ac ar y lefel honno y gwnes i deimlo ei golled i'r byd.

Doeddwn i ddim yn disgwyl dim o hynny.

Image caption Josie'n ffilmio wrth Gylch yr Orsedd ar faes Eisteddfod Ynys Môn 2017

Ro'n i go iawn yn meddwl mai sioe oedd y Steddfod, cystadleuaeth dalent, ac ro'n i'n meddwl 'fydd hyn yn hwyl'. Wyddwn i ddim am yr haenau a'r dyfnder - mae 'na rywbeth gwirioneddol ddidwyll yn digwydd yma.

Beth dwi wedi ei weld yn digwydd yma, yn fwy nag unrhyw ddigwyddiad celfyddydol neu ddiwylliannol arall dwi wedi bod iddo, ydy'r rôl a'r ymdrech ddynol mewn cynnal a hyrwyddo traddodiad a diwylliant - mae'n llafur cariad go iawn.

Beth welwch chi ydy pobl sy'n angerddol am rywbeth, a ddaw dim byd ond daioni o hynny, does dim ochr negyddol.

Ond wnewch chi ddim ei ddeall os nag ydych chi wedi eich amgylchynu ganddo. Os nad ydych chi erioed wedi bod yn ei ganol, erioed wedi bod ynghanol côr meibion yn canu emyn, fedrwch chi ddim deall ei fod yn rhywbeth arbennig - wnewch chi ddim ei 'gael'.

Lle bynnag rydw i'n mynd yn y byd, mae pobl yn cymryd yn ganiataol mod i'n Brydeiniwr ac yn Saesnes - os ydych chi'n siarad Saesneg maen nhw'n cymryd mai Saesnes ydych chi ond mi fyddai bob amser yn eu cywiro ac yn dweud mai Cymraes ydw i.

Ond nawr mae'n golygu llawer mwy. Nawr rydw i'n gwybod beth mae'n ei feddwl - rydw i'n deall fy mod yn siarad am hanes a diwylliant a thraddodiad rydw i'n anhygoel o falch ohono.