Corff ger camlas yn Aberhonddu

Camlas Image copyright Google

Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am wybodaeth ar ôl i gorff dyn yn ei chwedegau gael ei ddarganfod ger y gamlas yn Aberhonddu.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r gamlas am 17:15 brynhawn Sadwrn.

Dyw corff y dyn ddim wedi cael ei adnabod yn swyddogol eto, ond dyw'r heddlu ddim yn trin ei farwolaeth fel un amheus.

Mae'r heddlu wedi cysylltu â theulu'r dyn a fu farw.