Canfod dyn yn farw yn y môr

Image copyright Peter Evans/ Geograph

Mae swyddogion Gwylwyr y Glannau wedi dod o hyd i gorff dyn yn y môr ger y Mwmbwls, Abertawe.

Cafwyd adroddiadau o'r darganfyddiad tua 09:00 dydd Sul.

Yn ôl yr heddlu mae teulu Mr See Li, sydd wedi bod ar goll ers Awst 4ydd, wedi cael eu hysbysu.

Dyw'r heddlu ddim yn trin ei farwolaeth fel digwyddiad amheus.