Morgannwg yn cyrraedd yr wyth olaf

Morgannwg Image copyright Huw Evans picture agency

Mae Morgannwg wedi cyrraedd rownd wyth olaf y T20 ar ôl curo Somerset yn Taunton.

Roedd Somerset un rhediad yn brin o'r fuddugoliaeth mewn diweddglo dramatig.

Ar ôl cael eu gwahodd i fatio yn gyntaf sgoriodd Morgannwg 183 am 6 yn eu 20 pelawd.

Nick Selman (66) oedd y prif sgoriwr gyda chyfraniadau da gan Aneurin Donald (33) a Colin Ingram (35).

Mewn ymateb sgoriodd Somerset 182 am 6 - rhediad yn unig brin o'r nôd - wrth i fowlwyr Morgannwg ddal ati tan y diwedd i ennill y gêm.