Gobeithion Cwpan y Byd Cymru ar ben

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Amy Evans (ar y dde) o Gymru yn llorio Lori Josephson

Cymru 0-15 Canada

Mae gobeithion Cymru o gyrraedd rownd gynderfynol Cwpan y Byd ar ben ar ôl colli yn erbyn Canada.

Roedd hi'n frwydr gystadleuol ond roedd cais Lori Josephson yn yr hanner cyntaf yn ergyd fawr i'r Cymry.

Fe sicrhaodd Canada'r fuddugoliaeth wrth i Magali Harvey sgorio cais a chic gosb hwyr yn yr ail hanner.

Bydd Cymru yn canolbwyntio nesaf ar gyrraedd y gemau ail gyfle er mwyn ceisio gorffen rhwng y 5ed a'r 8fed safle yn y gystadleuaeth.

Bydd yn rhaid cael buddugoliaeth ysgubol yn erbyn Hong Kong yn y gêm nesaf i wneud hynny.