Tri'n pledio'n euog wedi trywaniad ym Mochdre

Mochdre Image copyright Google
Image caption Digwyddodd y trywanu mewn ardal breswyl o dre' Mochdre ym mis Mawrth

Mae tri dyn, gan gynnwys dau efaill, bellach wedi pledio'n euog yn dilyn digwyddiad ym Mochdre, Sir Conwy, ym mis Mawrth eleni lle cafodd dyn arall ei drywanu.

Yr wythnos ddiwethaf fe wnaeth Jacko Jones, 18 oed o Hen Golwyn, bledio'n euog i glwyfo bwriadol.

Ddydd Llun fe wnaeth ei efaill Marvin Jones a Leighton Jones, 19 oed, bledio'n euog yn Llys y Goron Caernarfon i'r cyhuddiad llai difrifol o glwyfo anghyfreithlon wedi i Connor Owen gael ei drywanu.

Fe wnaeth y ddau ymddangos ar gyswllt fideo o garchar Altcourse.

Fe fydd y tri'n cael eu dedfrydu ym mis Medi er mwyn paratoi adroddiadau.

Dywedodd y Barnwr Huw Rees wrthyn nhw: "Mae'r rhain yn faterion difrifol, ac rydych yn debygol o gael eich dedfrydu i gyfnod mewn carchar ieuenctid.

"Rwyf wedi gohirio'r dedfrydu ar gyfer adroddiadau er mwyn i mi gael gwybod llawer mwy amdanoch chi."

Straeon perthnasol