Gwrthdrawiad Rhydaman: Cyhoeddi enw dynes fu farw

Heddlu

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cyhoeddi enw dynes fu farw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd yn Rhydaman ddechrau mis Awst.

Roedd Linda Allchurch yn 73 oed, ac yn dod o'r ardal.

Fe gafodd dyn hefyd ei gludo i'r ysbyty yn dilyn y gwrthdrawiad a ddigwyddodd ar ffordd Tycroes ger cyffordd Pantyffynon am 15:40 ddydd Iau.

Roedd y gwrthdrawiad rhwng car Toyota Yaris a fan Iveco Daily.

Mae'r heddlu'n parhau i ofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i gysylltu drwy ffonio 101.