Chwaraewr proffesiynol hyna'r byd

Filise

Mae prop Gleision Caerdydd, Taufaʻao Filise, wedi ymestyn ei gytundeb gyda'r rhanbarth am dymor arall - ag yntau'n 40 oed.

O ganlyniad, mae'n debyg mai Filise yw'r chwaraewr rygbi proffesiynol hynaf yn y byd.

Cafodd y chwaraewr Brad Thorn gytudeb newydd gyda Chaerlŷr tair blynedd yn ôl pan oedd yn 39, cyn symud i Queensland Country. Ond mae Thorn wedi ymddeol o chwarae erbyn hyn ac mae bellach yn hyfforddi.

Er ei fod yn hŷn na'i gyd-chwaraewyr a gwrthwynebwyr, mae gan Filise dal enw fel chwaraewr hynod gorfforol, yn 6'2" o daldra ac yn pwyso 124kg. Mae hefyd yn gallu chwarae yn safle y prop pen-tynn neu pen-rhydd.

Daeth at y Gleision yn 2006 pan ymunodd o Gaerfaddon, ac mae wedi cynrychioli Tonga 17 o weithiau ac Ynysoedd y Môr Tawel ar bum achlysur.

Fel dywed y newyddiadurwr rygbi Peter Jackson ar Twitter, mae Filise hyd yn oed yn hŷn na golwr Yr Eidal, Gianluigi Buffon: