Marwolaeth Dinbych: Dyn yn y llys

Ffordd Pendref

Mae dyn 27 oed wedi ymddangos o flaen ynadon wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio ac achosi niwed bwriadol mewn digwyddiad yn Ninbych yn gynnar fore Sadwrn.

Cafodd Jason Cooper ei gyhuddo yn Llys Ynadon Llandudno fore dydd Llun o geisio llofruddio dynes ac achosi niwed bwriadol i ddyn yn y dref.

Bu farw'r ddynes o'i hanafiadau ddydd Sul.

Fe fydd Mr Cooper yn ymddangos ger bron Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Mawrth.

Ni wnaeth gais am fechnïaeth.