Shaun Edwards i weithio gyda'r Gleision

Shaun Edwards Image copyright Getty Images
Image caption Mae Shaun Edwards wedi bod yn hyfforddwr amddiffyn Cymru ers 2008

Mae hyfforddwr amddiffyn rygbi Cymru wedi ymuno gyda rhanbarth y Gleision fel ymgynghorydd.

Mae Shaun Edwards eisoes wedi dechrau gweithio gyda charfan Danny Wilson, ac fe fydd yn arwain sesiynau amddiffyn yn rhan amser, a hefyd yn mentora rhai o hyfforddwyr eraill y Gleision.

Bydd yn parhau i fod yn rhan llawn amser o staff Warren Gatland gyda thîm Cymru. Bu yn y swydd yna ers 2008.

Dywedodd prif hyfforddwr y Gleision, Danny Wilson: "Fe fydd Shaun yn ychwanegiad gwych i Gleision Caerdydd.

"Mae'r amddiffyn yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni wella os ydyn ni am gymryd cam ymlaen a chyrraedd Cwpan Pencampwyr Ewrop.

Rôl bwysig

Mae gan Shaun gyfoeth o brofiad, ac fe fydd hefyd yn chwarae rôl bwysig wrth ddatblygu hyfforddwyr amddiffyn ac arweinwyr y dyfodol."

Dywedodd llefarydd ar ran Undeb Rygbi Cymru: "Bydd Shaun yn gyswllt cyson rhwng y tîm rheoli cenedlaethol a thîm hyfforddi'r Gleision.

"Byddwn yn gweld effaith ar draws y rhanbarthau gyda'n hyfforddwyr cenedlaethol hefyd yn gweithio gyda'r Dreigiau, Scarlets a'r Gweilch am gyfnodau amrywiol yn ystod y tymor i ddod."