Y Bencampwriaeth: Caerdydd 2-0 Sheffield United

jack o'connell a nathaniel mendez-laing Image copyright Getty Images

Mae Caerdydd yn aros ar frig y Bencampwriaeth yn dilyn buddugoliaeth arall, y tro hwn yn erbyn Sheffield United.

Fe aeth yr Adar Gleision ar y blaen ar drothwy hanner amser diolch i beniad gan y capten, Sean Morrison.

Dyblwyd y fantais ddeng munud wedi'r egwyl wrth i Nathaniel Mendez-Laing guro'i ddyn cyn canfod cefn y rhwyd o flaen torf o bron i 18,000 yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Ond er i'r ymwelwyr gael mwy o'r meddiant fe fethon nhw â dod a'u hunain yn ôl i mewn i'r gêm.

Fe chwaraeodd y Cymro Jazz Richards gem lawn dros Gaerdydd, gyda Ched Evans hefyd yn ymddangos oddi ar y fainc i Sheffield United.

Mae'r canlyniad yn golygu fod Caerdydd wedi ennill tair gêm o'r bron ar ddechrau'r tymor am y tro cyntaf.