Tlws y Gynghrair: Cheltenham Town 1-2 Abertawe dan-21

kenji gorre Image copyright Getty Images
Image caption Kenji Gorre wnaeth wneud y sgôr yn gyfartal

Fe wnaeth tîm dan-21 Abertawe frwydro nôl i drechu Cheltenham yn eu gêm gyntaf yn Nhlws y Gynghrair eleni.

Y tîm cartref aeth ar y blaen ar ôl 48 munud wrth i Kyle Storer rwydo o gic gornel, cyn i'r eilydd Kenji Gorre unioni pethau ar ôl 73 munud.

Deng munud yn ddiweddarach fe wnaeth gôl Aaron Lewis sicrhau'r fuddugoliaeth i'r Elyrch.

Bydd Abertawe yn wynebu Forest Green Rovers a Chasnewydd yn eu gemau grŵp eraill yn Nhlws Checkatrade.