Abertawe yn cytuno ar ffi o £45m am Gylfi Sigurdsson

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Iwan Roberts yn ymateb i drosglwyddiad Gylfi Sigurdsson

Mae Abertawe wedi cytuno ar ffi o tua £45m gyda chlwb Everton am y chwaraewr canol cae, Gylfi Sigurdsson.

Mae disgwyl i'r gŵr o Wlad yr Iâ gael prawf meddygol gyda'r clwb o Lannau Mersi ddydd Mercher cyn cwblhau'r trosglwyddiad.

Fe wnaeth y chwaraewr 27 oed sgorio naw gôl a chreu 13 arall wrth helpu'r Elyrch i aros yn yr Uwch Gynghrair y tymor diwethaf.

Roedd Abertawe wedi mynnu £50m amdano'n wreiddiol, gydag Everton yn gwneud cynnig cychwynnol o £40m, cyn i'r ddau glwb ddod i gyfaddawd.