Scott Quigley wedi gadael y Seintiau i ymuno â Blackpool

Scott Quigley Image copyright Getty Images

Mae ymosodwr Y Seintiau Newydd, Scott Quigley wedi gadael y clwb i ymuno â Blackpool, sy'n chwarae yn Adran Un o'r gynghrair bêl-droed.

Mae'r Seintiau yn adrodd fod y cytundeb werth £50,000, gydag ychwanegiadau yn y fargen.

Dywedodd cadeirydd Y Seintiau Newydd, Mike Harris: "Dyma garreg filltir bwysig yn hanes y clwb, fod ein chwaraewyr yn tynnu sylw'r clybiau mawr o Loegr... mae'n brawf bod ein hacademi a'n rheolwr yn gallu datblygu chwaraewyr gyda thalentau fel hyn."

Fe enillodd Quigley, sy'n wreiddiol o'r Amwythig, wobr am chwaraewr ifanc y flwyddyn yn 2014/2015, ac mae wedi ennill tair prîf dlws pêl-droed ddomestig yng Nghymru.

Daeth i garfan y Seintiau ar ôl dod drwy sustem acamdemi'r clwb.

Mae hefyd wedi chwarae mewn gemau ac wedi sgorio yng Nghynghrair y Pencampwyr.

Quigley yw'r enw mawr diweddaraf i adael pencampwyr Uwch Gynghrair Cymru yn dilyn ymadawiad y rheolwr, Craig Harrison, a'i ddirprwy Carl Darlington dros yr haf.

Mae Harrison wedi ymuno a chlwb Hartlepool yng Nghynghrair Cenedlaethol Lloegr a Darlington wedi symudi fod yn aelod o dîm hyfforddi Wrecsam.

Collodd y Seintiau Newydd eu gêm gyntaf y tymor hwn o 5-2 yn erbyn Bangor nos Wener diwethaf.