Cofio'r Cymro a 'laddodd Richard III' yn Bosworth

beddrod rhys ap thomas
Image caption Mae beddrod Syr Rhys ap Thomas yn parhau i sefyll yn Eglwys San Pedr, Caerfyrddin

Mae maer Caerfyrddin yn dweud fod angen i bobl "wybod yr hanes" wrth baratoi i nodi un o'r brwydrau enwocaf yn hanes Prydain.

Bydd digwyddiadau'n cael eu cynnal yn y dref ddydd Sadwrn i nodi Diwrnod Bosworth, er cof am y frwydr yn 1485 pan wnaeth Harri Tudur drechu Richard III i ddod yn frenin Lloegr.

Un o gadfridogion Harri yn y frwydr oedd Syr Rhys ap Thomas, uchelwr o Sir Gaerfyrddin - y dyn mae rhai yn ei gredu wnaeth daro'r ergyd farwol a laddodd Richard.

Ac yn ôl Alun Lenny, mae'n bwysig fod y Cymry'n ymwybodol o'r cysylltiad â'r llinach frenhinol wnaeth "ddod â Phrydain o'r Canol Oesoedd i'r oes fodern".

Image caption Bydd baner Harri Tudur yn hedfan o dŵr yr eglwys yn ystod y digwyddiadau

Bydd digwyddiadau'r diwrnod yn Eglwys San Pedr yn cynnwys esboniad o hanes y cyfnod, gweithgareddau i blant, cyfle i ddringo tŵr yr eglwys a gweddïau o gopi o lyfr oedd yn eiddo i Rhys ap Thomas.

Mae lleoliad y dathliadau yn arwyddocaol gan mai yn yr eglwys honno y mae bedd Syr Rhys.

"Mae nifer o bobl yng Nghaerfyrddin sydd ddim yn gwybod yr hanes, heb sôn am bobl o'r tu allan, felly mae angen addysgu pobl," meddai Mr Lenny.

"Mae hanes unrhyw Gymro yn lladd brenin Lloegr mewn brwydr yn ddiddorol!

"Mae 'na ddeiseb o gwmpas ar hyn o bryd yn dweud y dylai hanes Cymru gael ei ddysgu i blant ysgol yng Nghymru, wel mae hwn yn enghraifft o rywbeth mawr yn digwydd - Cymro yn dod yn frenin."

Image caption Y maer presennol, Alun Lenny wnaeth gomisiynu'r faner - mae Syr Rhys yn un o'i ragflaenwyr yn y swydd

Mae'n cyfaddef fodd bynnag nad yw teyrnasiad y Tuduriaid wastad wedi cael ei ystyried fel peth da i Gymru, gyda Harri VIII yn cyflwyno'r Deddfau Uno ac yn gwahardd yr iaith Gymraeg o fywyd cyhoeddus.

Ond roedd penderfyniad ei ferch, Elisabeth I, i ganiatáu cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg yn rhan fawr o'r rheswm pam fod yr iaith yn parhau i fodoli heddiw.

"Yn y pendraw roedd e'n llesol [cael y Tuduriaid ar yr orsedd] o ran yr iaith - fe wnaeth hi'r gymwynas fwyaf erioed o ran y Gymraeg gyda chyfieithu'r Beibl," meddai.

Ychwanegodd y maer fod Cyngor Tref Caerfyrddin eisoes wedi cynnal trafodaethau â'r cyngor sir er mwyn ceisio cynnal digwyddiad mwy, fydd yn cynnwys y castell, y flwyddyn nesaf.

"'Dyn ni'n gobeithio gwneud gŵyl iawn ohoni."

Pwy oedd Syr Rhys ap Thomas?

Roedd Syr Rhys ap Thomas yn dod o deulu o uchelwyr oedd ymysg y mwyaf pwerus yn ne Cymru yn ail hanner yr 15fed Ganrif.

Fe ymunodd â gwrthryfel Harri Tudur yn erbyn Richard III, ac yn dilyn y fuddugoliaeth cafodd ei wobrwyo'n hael gan gael ei wneud yn farchog.

Rhoddwyd sawl swydd arall i Syr Rhys hefyd gan gynnwys Rheolwr Cymru, aelodaeth o'r Cyfrin Gyngor, a dod yn Farchog y Gardas Aur, ac roedd hefyd yn Faer Caerfyrddin ar bedwar achlysur.

Bu farw yn 1525 ym mhriordy Caerfyrddin, ac yn ddiweddarach fe gollodd ei linach lawer o'r tiroedd a'r cyfoeth roedden nhw wedi'i etifeddu wedi iddyn nhw gael eu cyhuddo gan Harri VIII o frad.