Gylfi Sigurdsson yn arwyddo i Everton

Gylfi Sigurdsson Image copyright Getty Images
Image caption Fe wnaeth Sigurdsson sgorio 39 o goliau i'r Elyrch mewn 112 o ymddangosiadau

Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi cadarnhau bod eu chwaraewr canol cae Gylfi Sigurdsson wedi arwyddo i Everton.

Mae'r chwaraewr 27 oed o Wlad yr Iâ wedi cwblhau'r trosglwyddiad am ffi sy'n record i Everton ei dalu am chwaraewr.

Mae cryn ddyfalu wedi bod am ddyfodol Sigurdsson ers dechrau'r haf pan wnaeth y chwaraewr dynnu allan o daith yr Elyrch i'r UDA wrth iddo geisio rhoi trefn ar ei ddyfodol gyda chadeirydd Abertawe, Huw Jenkins.

Roedd Everton wedi datgan diddordeb ynddo ond doedd y ddau glwb methu cytuno ar ffi wrth i Abertawe fynnu eu bod eisiau £50m amdano.

Tydi Abertawe heb ddatgelu maint y ffi, ond mae adroddiadau yn honni bod Everton wedi talu tua £45m i'r Elyrch amdano.

Fe wnaeth Sigurdsson ail arwyddo i Abertawe o Tottenham yn 2014 yn dilyn cyfnod gyda'r clwb yn 2012, ac fe aeth yn ei flaen i sgorio 39 o goliau i'r Elyrch mewn 112 o ymddangosiadau yn ei ail gyfnod gyda'r clwb.