Gostyngiad bychan yn nifer y di-waith yng Nghymru

Swyddi Image copyright PA

Mae cyfradd diweithdra yng Nghymru wedi gostwng ychydig i 4.5% dros y mis diwethaf, yn ôl ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Mae'r ffigyrau, ar gyfer y cyfnod rhwng Ebrill a Mehefin, ar eu lefel isaf ers mis Tachwedd y llynedd.

Er bod gostyngiad, mae nifer y di-waith yn parhau ychydig yn uwch na chyfradd diweithdra'r DU, sydd wedi disgyn o 4.5% i 4.4%.

Cyfanswm y bobl oedd yn ddi-waith yng Nghymru ym mis Mai oedd 67,000, o'i gymharu gyda 70,000 fis ynghynt.

O'i gymharu gyda'r tri mis blaenorol, roedd diweithdra yng Nghymru 6,000 yn is, ond roedd 2,000 yn uwch o'i gymharu gyda blwyddyn yn ôl.

'Darlun cryf'

Dywedodd uwch ystadegydd llafur yr ONS, Matt Hughes: "Mae'r darlun cyflogaeth yn parhau'n gryf gyda chyfradd uchaf erioed o bobl mewn gwaith a gostyngiad yn nifer y di-waith.

"Er y darlun cyflogaeth cryf yma, mae enillion yn parhau i ostwng."

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns: "Mae'r ffigyrau diweddaraf hyn yn dangos nad ydy creu swyddi'n digwydd ar ei ben ei hun, rhaid i ni greu'r amgylchiadau cywir ar gyfer twf economaidd.

"Tra rwyf yn croesawu'r cwymp yn nifer y di-waith, mae'n bryderus fod cyflogaeth i lawr a bod mwy o bobl yn disgyn allan o'r farchnad lafur yng Nghymru, pan fod y ffigyrau hyn yn symud i'r cyfeiriad cywir yng ngweddill y DU."

Dywedodd fod Llywodraeth y DU yn benderfynol o barhau i ddatblygu'r amgylchiadau cywir am dwf economaidd, buddsoddiad a swyddi yng Nghymru.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones fod y darlun diweddaraf yn "berfformiad cadarn arall" i Gymru.

"Fel llywodraeth rydym wedi ein hymrwymo i fuddsoddi yn yr isadeiledd y mae Cymru ei angen i ffynnu a thyfu ac i greu'r amgylchiadau economaidd cywir fydd yn dod a swyddi o safon uchel y mae pobl eu hangen yma."

'Testun pryder'

Ar ran Plaid Cymru dywedodd Adam Price AC sy'n ysgrifennydd yr wrthblaid ar yr economi: "Mae'r cynnydd mewn diffyg gweithgarwch economaidd yng Nghymru'n destun pryder.

"Dan yr wyneb, mae'r ffigyrau hyn yn datgelu fod nifer fawr o weithwyr Cymreig yn parhau i gael eu dal mewn economi cyflog-isel. Dyna pam fod angen cyflog byw go iawn i sicrhau fod tlodi mewn-gwaith yn perthyn i'r gorffennol.

"Rhaid i lywodraethau Cymru a'r DU hefyd wneud mwy i greu swyddi, yn ogystal ag ymdrechu i sicrhau fod cyfleoedd gwaith newydd yn rhai sgiliau uchel sy'n talu'n dda."