Gŵyl y Dyn Gwyrdd ar droed

dyn gwyrdd

Fe fydd Gŵyl y Dyn Gwyrdd 2017 yn dechrau'n swyddogol ddydd Gwener.

Eleni fe fydd yr ŵyl yn croesawu rhai o enwau amlwg y byd cerddoriaeth, gan gynnwys PJ Harvey, Ryan Adams a'r Future Islands, fe fydd rhai o ser y byd pop yng Nghymru hefyd yn ymddangos gan gynnwys DJ Radio 1 - Huw Stephens a'r artist o Gaerdydd, H Hawkline.

Mae'r Dyn Gwyrdd yn ŵyl sy'n cael ei chynnal yn flynyddol yn ardal Crucywel ers 2003. Hon felly yw'r 15fed tro iddi gael ei chynnal.

Image copyright Getty Images
Image caption Fe fydd PJ Harvey, Ryan Adams a Future Islands yn ymddangos eleni

Mae gwasanaeth parcio a theithio ar waith i'r safle Grucywel, ac mae'r heddlu wedi dweud y gallai traffig fod yn drwm ar ffordd yr A40 rhwng y Fenni ac Aberhonddu.

Disgwylir hefyd i ffordd yr A465, Blaenau'r Cymoedd, fod yn fwy prysur nag arfer wrth i ymwelwyr fynd i'r digwyddiad, lle bydd tua 1,500 o weithredoedd o gerddoriaeth, comedi, llenyddiaeth a ffilm yn perfformio ar 17 o lwyfannnau gwahanol.