Carchar i ddyn gafodd ei ddal gan helwyr pedoffiliaid

Carchar i ddyn gafodd ei ddal gan helwyr pedoffiliaid
Image caption Mae Adrian Simut wedi ei garcharu am dair blynedd

Mae dyn o Lundain wedi ei garcharu am geisio ysgogi plentyn i ymwneud â gweithgaredd o natur rywiol yn ne Cymru.

Clywodd y llys fod Adrian Simut wedi teithio o Lundain i Gasnewydd er mwyn cyfarfod yr hyn oedd ef yn credu i fod yn ferch 14 oed o'r enw 'Sam'.

Pan gyrhaeddodd Simut y man cyfarfod, cafodd ei gyfarch gan griw o bobl sy'n targedu pedoffiliaid ar-lein, gan ddarganfod mai gydag un o'r rhain yr oedd wedi bod yn sgwrsio dros y we, ac nid gyda'r ferch 14 oed.

Roedd Adrian Simut, sy'n wreiddiol o Romania wedi bod yn ceisio meithrin perthynas anweddus gyda'r ferch, gan anfon negeseuon o natur rywiol dros y we.

Fe blediodd Simut yn euog i'r cyhuddiadau yn ei erbyn ac fe gafodd ei garcharu am dair blynedd yn Llys y Goron Casnewydd.

Fe gafodd hefyd orchymun gwahardd rhag niwed rhywiol am oes.