Cymry yn ymateb i ymosodiad Barcelona

ymosodiad Image copyright EPA
Image caption Ar hyn o bryd mae'r heddlu'n dweud bod 13 o bobl wedi marw, ac 80 wedi'u hanafu - llawer ohonyn nhw'n ddifrifol

Mae Cymry wedi eu dal yng nghanol ymosodiad terfysgol yn Barcelona ddydd Iau.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ychydig cyn 16:00 ddydd Iau, yn ardal Las Ramblas - ardal brysur o'r ddinas sy'n boblogaidd iawn i dwristiaid.

Fe gafodd fan ei gyrru ar hyd y stryd gan daro mewn i griwiau o bobl oedd yn cerdded ar y Ramblas.

Ar hyn o bryd mae'r heddlu'n dweud bod 14 o bobl wedi marw, a 130 wedi'u hanafu - 17 mewn cyflwr difrifol iawn a 30 yn ddifrifol. Mae'r digwyddiad yn cael ei drin fel ymosodiad terfysgol gan heddlu Catalunya sydd dal i chwilio am y dyn oedd yn gyrru'r fan.

'Terrorists, terrorists'

Roedd Sian Jones o Benysarn ger Amlwch ar Ynys Môn newydd adael caffi ar Las Ramblas cyn iddi sylwi ar yr heddlu'n dod yn gyflym.

"Mi oedd pobl yn gweiddi 'terrorists, terrorists' a phawb jest yn rhedeg fyny'r stryd. Fe gawsom ni loches mewn adeilad gwag.

"Doedden mi ddim yn gwybod beth oedd yn mynd ymlaen nes i ni gael neges o adref," meddai.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Roedd Sian Jones o Benysarn, Ynys Môn yn siarad ar raglen y Post Cyntaf
Image copyright Sian Jones
Image caption Roedd Sian Jones yn ardal yr ymosodiad ychydig cyn y digwyddiad ddydd Iau

Fe gafodd dau ddyn eu harestio nos Iau, ac mae'r awdurdodau'n dweud bod trydydd dyn wedi cael ei arestio fore Gwener mewn cysylltiad â'r ymosodiad.

Daeth cadarnhad gan yr heddlu eu bod wedi saethu pum person oedd yn cael eu hamau o fod yn derfysgwyr yn nhref Cambrils sydd 68km i'r de orllewin o Barcelona.

Dywedodd yr heddlu eu bod wedi ymyrryd er mwyn osgoi ymosodiad tebyg i'r un a ddigwyddodd yn Barcelona yn gynharach.

Mae saith person wedi'i eu hanafu yn yr ardal wedi'i i gar yrru mewn i dorf o bobl. Ymysg y rhai sydd wedi eu hanafu mae un heddwas ac mae un o'r bobl hynny mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Yn ôl yr adroddiadau gwreiddiol, roedd y pump yn gwisgo gwregysau bomiau, ond fore Gwener fe wnaeth swyddog o lywodraeth Catalunya gadarnhau bod y gwregysau'n rhai ffug.

'Pobl yn sgrechian'

Mae Mary Grice Woods o Aberystwyth a'i theulu yn Barcelona ar eu gwyliau, ac wedi cyrraedd y ddinas wrth i'r gyflafan ddigwydd. Fe ddisgrifiodd wrth Cymru Fyw beth ddigwyddodd iddyn nhw.

"Ar y pryd roedd rhyw son mai 'car crash' oedd e felly dyma ni yn cerdded at y gwesty. Roedd e reit yn ganol y digwyddiad a thâp heddlu reit ar bwys y gwesty.

"Felly fuon ni rhyw 2 awr ar y stryd, pobl yn rhedeg i ffwrdd a sgrechian, a gwaeddi 'don't go there'.

Image copyright Mary Woods
Image caption Mae Mary Grice Woods o Aberystwyth a'i theulu yn Barcelona ar eu gwyliau

"Ar ôl cwpwl o oriau gethon ni help i gyrraedd y gwesty drwy strydoedd bach ar yr ochrau, ond yn ofalus iawn achos roedd yr heddlu yn dweud 'don't go there'.

"Fe fethon ni fynd mas o gwbwl neithiwr i gael bwyd na dim a sŵn helicopters drwy'r nos.

"Roedd gweld pobl ar y stryd a'r ambiwlansys yn jyst….. allwch chi ddim credu bod pethau fel hyn yn digwydd tan i chi weld e'n digwydd," meddai.

Roedd Ilid Jones o Fethel ger Caernarfon mewn gwesty, ond fe welodd hi nifer o dwristiaid yn ffoi "mewn panic" ac yn chwilio am lefydd mwy diogel.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
"Roedd pobl yn rhedeg mewn panic" medd Ilid Jones o Fethel ger Caernarfon

Un sydd yn y ddinas ar hyn o bryd ac oedd yn agos i ardal y digwyddiad ddydd Iau yw'r arbenigwr ar gysylltiadau cyhoeddus o Lundain, Dafydd Wyn Jones.

Wrth siarad ar raglen y Post Prynhawn ar BBC Radio Cymru dywedodd ei fod yn ddiogel cyn disgrifio bod llawer o sŵn yn yr ardal.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Cymry yn nghanol cyflafan Barcelona

Ymateb y pleidiau yng Nghymru:

Fe ddywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones mewn datganiad:

"Mae pob un o'r rhai yr effeithiwyd arnynt yn yr ymosodiadau terfysgol ddoe ar Barcelona a Cambrils yn ein meddyliau heddiw. Mae'n ddychrynllyd meddwl fod pobl gyffredin a oedd yn ymlacio ac yn mwynhau eu hunain wedi medru cael eu targedu mewn ffordd mor filain.

"Wrth gwrs mae hefyd nifer o gysylltiadau hanesyddol a diwylliannol rhwng Cymru a Chatalwnia, ac fe hoffwn gloi drwy fynegi fy nghydymdeimlad dwysaf ar ran pobl Cymru."

Image copyright Llywodraeth Cymru

Straeon perthnasol