Cwpan y Byd Rygbi Merched: Cymru 39 - 15 Hong Kong

Rygbi Cymru Image copyright Rex Features
Image caption Shona Powell-Hughes yn cael ei thaclo yn y gêm yn erbyn Hong Kong

Mae tîm Rygbi merched Cymru wedi ennill eu gem derfynol yn y grŵp yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd yn erbyn Hong Kong.

Fe aeth Hong Kong ar y blaen wrth i Natasha Olson-Thorne sgorio cais, ond llwyddodd Cymru i ymateb drwy Jess Kavanagh-Williams a Jasmine Joyce.

Fe wnaeth Hong Kong frwydro ymlaen a sgorio eto trwy Chan Ka Yan i wneud y sgôr yn 17-15.

Ond croesodd Kavanagh- Williams, Carys Phillips a Sioned Harries (ddwywaith) i ennill y gêm i Gymru o 39 - 15.

Er bod Cymru allan o'r gystadleuaeth mi fydden nhw nawr yn chwarae mewn gemau i benderfynu'r pumed i'r wythfed safle.