'Diffyg nawdd' i gwmnïau newydd dyfu'n rhai llwyddiannus

Technoleg Image copyright Thinkstock

Mae cwmnïau technoleg newydd yn wynebu diffyg buddsoddiad a chyngor pan maen nhw'n dechrau tyfu i fod yn fusnesau "mawr, llwyddiannus" yn ôl grŵp o fuddsoddwyr ac entrepreneuriaid yn y maes.

Yn ystod y 10 mlynedd diwethaf mae bron 80 o gwmnïau technoleg sydd newydd ddechrau wedi derbyn £60m gan Cyllid Cymru.

Ond mae rhwydwaith Cardiff Start, sydd gyda 2,500 o aelodau, yn dweud dyw'r gefnogaeth yn "aml ddim yn addas i'w bwrpas".

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod nhw'n cynnig ystod o "gynlluniau wedi'u teilwra".

Deall y diwydiant yn well

Roedd adroddiad yn gynharach eleni gan Tech Nation yn dweud mai Cymru sydd gyda'r diwydiant digidol sydd yn tyfu gyflymaf tu allan i Lundain ym Mhrydain.

Mae Cyllid Cymru, corff gan Lywodraeth Cymru sydd yn rhoi cyllid twf i fusnesau bach a chanolig, wedi rhoi £20m o arian cychwynnol i 78 cwmni gyda £40m yn ychwanegol fel buddsoddiad dilynol.

Gall y nawdd i gwmni unigol fod rhwng £1,000 a £5m trwy gronfeydd gwahanol.

Er hynny mae Neil Cocker, un o sylfaenwyr Cardiff Start, wedi galw am fwy o ymwybyddiaeth ynglŷn â sut mae'r diwydiant digidol yn gweithio.

Image copyright Getty Images
Image caption Mae angen i Gymru hyrwyddo eu cwmniau newydd digidol yn well meddai rhai yn y maes

Mae'n dweud bod cwmnïau technoleg newydd fel arfer yn gweithredu trwy fodelau economaidd gwahanol i fusnesau traddodiadol.

"Dyw rhan fwyaf o'r cwmnïau sydd newydd ddechrau byth yn gwireddu eu potensial oherwydd diffyg nawdd perthnasol a chyngor.

"Rydyn ni weithiau hyd yn oed yn clywed am sylfaenwyr cwmnïau sydd yn dweud eu bod nhw ymhellach ar ei hôl hi na pe bydden nhw wedi treulio amser yn gweithio ar ei busnes heb y gefnogaeth," meddai.

Y miliwn cyntaf yn her

"Mae'n bwysig i nodi nad bai Cymru neu Lywodraeth Cymru yw hyn. Does gyda ni ddim pwll mawr o arbenigwyr profiadol yn y maes."

"Ond mae'n bwysig i Lywodraeth Cymru wrando yn fwy astud ar y rhai sydd yn gwneud y gwaith a rhoi cymorth iddynt i gael mynediad at bobl all eu helpu go iawn.

Yn ôl Stephen Milburn, a wnaeth helpu i sefydlu Cardiff Start ac sydd yn datblygu apiau, mae busnesau newydd yn ei chael hi'n anodd i wneud ei miliwn cyntaf.

Dylai Llywodraeth Cymru feddwl yn yr hir dymor meddai wrth benderfynu pa gwmnïau i gefnogi am fod eu "gwerth ac enillion" yn wahanol i fusnesau "brics a mortar."

Image caption Mae Tramshed wedi ei leoli yn Nhrelluest yng Nghaerdydd

Mae'r ddau yn credu y gallai Cymru hyrwyddo ei hun yn well.

Ychwanegodd Mr Cocker: "Mae'r Alban yn dda iawn am hyrwyddo ei llwyddiannau ac mae pawb yn y byd digidol yn gwybod bod Skyscanner a Rockstar Games er enghraifft yn dod o'r Alban.

"Ond tu allan i Gymru does 'na ddim llawer yn gwybod bod GoCompare yn gwmni o Gymru."

Denu cwmnïau dros y ffin

Dywedodd Steve Smith, Cyfarwyddwr Buddsoddiadau Mentrau Technoleg Cyllid Cymru, bod ganddynt dîm o bobl sydd yn gweithio yn benodol gydag ystod eang o fusnesau technoleg sydd wedi tyfu neu yn y broses o wneud.

Ychwanegodd eu bod wedi helpu cwmnïau bach i ddod yn rhai mawr a bod yr ystod o nawdd sydd ar gael wedi "helpu cwmnïau newydd technoleg yng Nghymru i flodeuo ond hefyd wedi denu cwmnïau a sefydlwyr i adleoli o ar draws y ffin."

Mae'r rhain yn cynnwys cwmnïau fel Amplyfi sydd wedi lleoli yn Tramshed yng Nghaerdydd a We Predict yn Abertawe.

Image caption Dywedodd Ken Skates fod y llywodraeth wedi helpu i greu dros 10,000 o swyddi yn y sector ers 2010

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates fod y sector dechnoleg yng Nghymru yn tyfu 32% yn gynt na'r economi yn ei chyfanrwydd, a'i fod werth tua £8.5bn i economi Cymru, gyda thua 3,500 o fusnesau yn cyflogi dros 40,000 o bobl.

Ychwanegodd Mr Skates fod Llywodraeth Cymru yn "cefnogi busnesau arloesol drwy gynlluniau wedi'u teilwra" megis y Gronfa Datblygu Digidol, a'u bod wedi cefnogi cwmnïau newydd fel Welsh ICE, TechHub Abertawe a Tramshed Tech.

Rydyn ni'n cydnabod fod cwmnïau technoleg yn gweithredu'n wahanol a bod eu gofynion yn gallu bod yn wahanol o ran cefnogaeth gan y llywodraeth," meddai.

"Rydyn ni'n parhau i fod wedi ymrwymo i raglen o gefnogaeth sydd yn canolbwyntio ar yrru twf pellach yn y sector a sicrhau fod gan fusnesau technoleg Gymreig bob cyfle i lwyddo."