T20: Morgannwg yn rownd yr wyth olaf

criced Image copyright Huw Evans picture agency

Fe sicrhaodd Morgannwg eu lle yn rownd yr wyth olaf yng Nghystadleuaeth y T20 ar ôl trechu Middlesex nos Wener.

Ar ôl sgorio 100 o rediadau mewn 14 pelawd, a hynny oherwydd tywydd gwael, fe sgoriodd y tîm cartref 100-3 gydag Aneurin Donald yn taro 33.

Fe ddechreuodd Middlesex yn drychinebus gan sgorio ddim ond 24-5.

Fe fydd Morgannwg yn mynd ymlaen i chwarae gartref yn erbyn Sir Gaerlŷr nos Fercher 23 Awst.