Yr actor Robin Griffith, llais Blodyn Tatws, wedi marw

Robin Griffith Image copyright Marian Ifans

Mae'r actor Robin Griffith, llais un o gymeriadau adnabyddus rhaglen blant Miri Mawr, wedi marw.

Fo oedd llais y cymeriad Blodyn Tatws, ac roedd hefyd yn cael ei gofio fel yr un fu'n chwarae rhan Y Barwn Coch yn y gyfres Siop Siafins.

Fe aeth ymlaen i ymddangos mewn ffilmiau Un Nos Ola' Leuad, yn ogystal â chynyrchiadau theatr diweddar fel Chwalfa a Sgint, a rhaglenni teledu fel Torchwood.

Dywedodd un o'i gyd-gast ym Miri Mawr, yr actor Dafydd Hywel ei fod yn "gymeriad unigryw".

'Colled fawr'

Cafodd y cast gyfle i gyfarfod unwaith eto yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, a hynny mewn digwyddiad er cof am y cyfarwyddwr Peter Elias Jones.

Fe wnaeth Dafydd Hywel a Robin Griffith hefyd fagu eu cyfeillgarwch ymhellach wrth weithio ar ffilm Derfydd Aur yn Awstralia ar ddiwedd yr 1980au.

"Amser ti'n byw gyda rhywun am ddeufis ti'n dod i'w nabod nhw'n dda," meddai.

"Mae mynd i fod yn golled mawr, fel ffrind yn fwy na dim byd arall. Mae'n drueni fod ni heb weld ein gilydd yn fwy aml dros y blynyddoedd.

"Roedd e'n gymeriad unigryw, yn llawn hwyl, bydden ni wastad yn cwrdd lan am beint os oedden ni'n cael y cyfle."

Image caption Teyrnged i Robin Griffith gan Theatr Genedlaethol Cymru

Ychwanegodd: "Roedden ni'n cael lot o sbri ar Miri Mawr, roedden ni'n griw hapus iawn.

"Roedd rhai o'r pethe fyddai Blodyn Tatws yn dweud bydde ti ffaelu rhoi nhw ar y teledu! Roeddech chi'n anghofio weithiau mai pypedau oedden nhw."

Ymysg sawl neges ar Twitter yn talu teyrnged iddo, dywedodd Theatr Bara Caws: "Trist iawn clywed am farwolaeth Robin Griffith. Cwsg yn dawel hen ffrind."

Roedd Robin Griffith yn dod yn wreiddiol o Langoed ar Ynys Môn, ac yn ddiweddar bu'n byw yn Llundain.