Cyn-gricedwr Morgannwg, Don Shepherd wedi marw yn 90 oed

Don Shepherd Image copyright Getty Images

Mae cyn-gricedwr Morgannwg, Don Shepherd wedi marw yn 90 oed.

Roedd yn adnabyddus fel un o fowlwyr gorau erioed y sir, gan ddal record y sir gyda 2,174 wiced mewn gyrfa wnaeth bara 22 mlynedd.

Yn wir roedd llawer yn ei ystyried fel un o'r bowlwyr gorau erioed i beidio â chael ei ddewis i chwarae dros Loegr.

Wedi iddo ymddeol o chwarae, bu'n sylwebydd criced i BBC Cymru am dros 30 mlynedd, a bu hyd yn oed yn parhau i wneud hynny eleni.

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Roedd Don Shepherd yn ymwelydd cyson â Morgannwg hyd yn oed ar ôl ymddeol

Fe chwaraeodd Shepherd ei gêm gyntaf dros Forgannwg yn 1950, a dau ddegawd yn ddiweddarach cafodd ei enwi'n un o bum cricedwr y flwyddyn Wisden.

Llwyddodd y troellwr i gymryd dros 100 wiced mewn tymor ar 12 achlysur, a dros ei yrfa roedd ganddo gyfartaledd o 21.32.

Fe serennodd dros Forgannwg pan lwyddon nhw i drechu Awstralia yn 1964 ac yna eto yn 1968.

Uchafbwynt ei yrfa oedd bod yn is-gapten ar y tîm wrth iddyn nhw ennill Pencampwriaeth y Siroedd yn 1969.