Uwch Gynghrair: Abertawe 0-4 Manchester United

Romelu Lukaku Image copyright Reuters
Image caption Romelu Lukaku gafodd yr ail gôl i Manchester United

Mae Manchester United wedi parhau a'u dechrau cryf i'r tymor wedi i dair gôl hwyr sicrhau buddugoliaeth yn erbyn Abertawe.

Roedd yr ymwelwyr wedi mynd ar y blaen funud cyn yr egwyl wedi i Eric Bailly fanteisio ar bêl rydd yn y cwrt cosbi.

Cafodd Abertawe eu cyfleoedd, ond roedd hi'n brynhawn siomedig i dîm Paul Clement yn eu gêm gyntaf o'r tymor yn Stadiwm Liberty.

Mae'r canlyniad yn golygu fod United yn aros ar frig yr Uwch Gynghrair, wedi iddyn nhw hefyd ennill o 4-0 yn erbyn West Ham ar y diwrnod agoriadol.

Taro'r trawst

Roedd bron i Abertawe gael y dechreuad perffaith i'r gêm wrth i Jordan Ayew ddianc i lawr y chwith, gan dwyllo'r golwr David de Gea i feddwl ei fod am groesi'r bêl cyn ergydio a tharo'r trawst.

O fewn y deng munud cyntaf fe aeth Man United yr un mor agos, gyda pheniad Phil Jones o gic rydd Juan Mata hefyd yn taro'r trawst.

Yr ymwelwyr fu'n gwneud y rhan fwyaf o'r pwyso yn yr hanner cyntaf, gyda Romelu Lukaku a Marcus Rashford yn methu cyfleoedd da.

Image copyright Reuters
Image caption Eric Bailly yn dathlu ar ôl sgorio gôl agoriadol y gêm

Ond cafodd yr Elyrch ambell gyfle hefyd gyda Kyle Bartley yn methu peniad o gic rydd, ac Ayew a Tammy Abraham yn edrych yn beryglus wrth wrthymosod.

Roedd Paul Pogba hefyd yn lwcus i beidio â gweld ail gerdyn melyn ar ôl llai na hanner awr, yn dilyn tacl hwyr ar Olsson funudau wedi iddo fynd i lyfr y dyfarnwr am gicio Tom Carroll.

A daeth penderfyniad y dyfarnwr nôl i frathu Abertawe ar drothwy hanner amser, wrth i Lukasz Fabianski wneud yn wych i arbed peniad Pogba o gic gornel dim ond i weld Bailly yn procio'r bêl i gefn y rhwyd ar yr ail gynnig.

Dwy mewn dau funud

Methodd Abraham gyfle gwych ar ôl awr o chwarae i unioni'r sgôr, gyda'i beniad o ryw chwe llathen yn mynd dros y trawst er nad oedd neb yn ei farcio.

Yn fuan wedi hynny penderfynodd Clement newid siâp y tîm, gan dynnu Kyle Bartley a Roque Mesa oddi ar y cae a mynd yn ôl i chwarae gyda phedwar yn y cefn.

Wayne Routledge a Luciano Narsingh ddaeth i'r maes yn eu lle, er mwyn ceisio ymestyn y chwarae a chynnig mwy o fygythiad i lawr yr asgell.

Image copyright Reuters
Image caption Gallai Paul Pogba (chwith) fod wedi cael anfon o'r cae yn yr hanner cyntaf

Cafodd y ddau dîm gyfleoedd pellach, gydag Ayew ac Abraham yn methu a manteisio o gic gornel cyn i Pogba fynd yn agos gyda chic rydd ar ôl i Leroy Fer lorio Daley Blind.

Ond fe seliwyd y fuddugoliaeth gyda deng munud i fynd, gyda Henrikh Mkhitaryan yn canfod Lukaku ar gyfer yr ail gôl cyn gwneud yr un peth ar gyfer Pogba funud yn ddiweddarach.

Roedd hyd yn oed amser am un arall, gyda'r eilydd Anthony Martial yn manteisio ar wrthymosodiad i ychwanegu pedwaredd gyda phum munud i fynd.