Y Bencampwriaeth: Wolves 1-2 Caerdydd

Loic Damour a Romain Saiss Image copyright Steve Feeney

Caerdydd oedd yn fuddugol yn y frwydr rhwng dau dîm ar frig y Bencampwriaeth oedd wedi ennill pob un o'u gemau cynghrair hyd yn hyn.

Yr Adar Gleision aeth agosaf at gôl yn yr hanner cyntaf, gyda pheniad Sol Bamba ar ôl 18 munud yn taro'r trawst.

Fe ddaeth un o'r diwedd wedi 54 munud, gyda Junior Hoilett yn canfod lle ar y chwith ac yn croesi i Joe Ralls ganfod cefn y rhwyd.

Roedd hi'n gyfartal ar ôl 68 munud wrth i Leo Bonatini rwydo i'r tîm cartref, cyn i Nathaniel Mendez-Laing sicrhau'r fuddugoliaeth gydag 13 munud i fynd.

Mae'r canlyniad yn golygu fod Caerdydd yn aros ar frig y Bencampwriaeth, gyda phedair buddugoliaeth allan o bedair.