Adrau Dau: Coventry 0-1 Casnewydd

Reece Cole Image copyright CPD Casnewydd
Image caption Mae Reece Cole wedi ymuno â'r clwb ar fenthyg o Brentford

Mae Casnewydd wedi ennill eu gêm gyntaf o'r tymor yn dilyn buddugoliaeth dros Coventry yn y Ricoh Arena.

Fe wnaeth yr Alltudion reoli'r ornest am lawer o'r hanner cyntaf, ac roedden nhw'n anlwcus i beidio mynd ar y blaen wrth i Robbie Willmott daro'r postyn.

Doedd dim rhaid i'r ymwelwyr aros yn rhy hir wedi'r egwyl i gael y gôl fodd bynnag, gyda Reece Cole yn rhwydro ar ôl 53 munud yn ei gêm gyntaf dros y clwb.

Mae'r canlyniad yn codi Casnewydd i'r nawfed safle yn Adran Dau.