Y Gynghrair Genedlaethol: Maidstone 2-1 Wrecsam

Mark Carrington Image copyright Getty Images
Image caption Roedd Mark Carrington yn un o'r rheiny gafodd ei anfon o'r maes

Brwydrodd Maidstone nôl i ennill gartref yn erbyn Wrecsam, a orffennodd y gêm gyda naw dyn ar y cae.

Cafodd Wrecsam y dechreuad perffaith wedi i Alex Reid rwydo ar ôl dim ond naw munud.

Ond erbyn yr egwyl roedd Maidstone ar y blaen, gydag Alex Wynter yn unioni'r sgôr ar ôl chwarter awr cyn i Jack Richards roi'r tîm cartref ar y blaen.

Fe aeth pethau o ddrwg i waeth i'r Dreigiau yn yr ail hanner, wrth i Manny Smith a Mark Carrington gael eu hanfon o'r cae o fewn munudau i'w gilydd.

Methodd Maidstone gic o'r smotyn yn dilyn cerdyn coch Smith, ond fe lwyddon nhw i ddal eu gafael ar y tri phwynt.