'Digwyddiad' yng ngharchar Caerdydd wedi dod i ben

Carchar Caerdydd

Mae "digwyddiad" yng ngharchar Caerdydd ddydd Sadwrn bellach wedi dod i ben, yn ôl y Gwasanaeth Carchardai.

Roedd dyn wedi cael ei weld yn dringo polyn ar safle'r carchar yn y "digwyddiad mewnol", cyn edrych dros wal y safle.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Carchardai: "Ddydd Sadwrn fe wnaeth carcharor yn HMP Caerdydd ddringo ffens fewnol.

"Mae'r digwyddiad bychan bellach wedi dod i ben a does dim anafiadau i staff na charcharorion."