Galw am ehangu cynllun Cymorth i Brynu i dai ail law

tai newydd

Dylai cynllun Llywodraeth Cymru i roi cymorth i bobl gyda'u blaendaliadau i brynu tai gael i ymestyn i dai ail law hefyd, yn ôl arbenigwyr.

Llynedd fe wnaeth dros chwarter y tai newydd yng Nghymru gafodd eu prynu ddefnyddio cynllun Cymorth i Brynu gwerth £290m y llywodraeth.

Ond mae rhai yn dweud nad yw'r trefniant yn gwneud unrhyw beth i "hybu'r farchnad dai", ac y dylai gael ei "ymestyn i bob person" sydd eisiau prynu tŷ.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y farchnad dai wedi "elwa" o Gymorth i Brynu.

Cynllun 'hanfodol'

Yn ôl rheolau'r cynllun mae'n rhaid i'r prynwr ganfod 5% o'r blaendal, gyda'r llywodraeth yn benthyg hyd at 20% yn ychwanegol ar bris y tŷ.

Bellach mae'n agos at gael ei gwblhau 5,000 o weithiau ers ei gyflwyno yn 2014.

Mae'r llywodraeth wedi benthyg bron i £200m mewn cyfraniadau blaendal, gyda phrynwyr y cynllun bellach wedi prynu gwerth dros £1bn o dai yng Nghymru.

Yn ôl datblygwyr tai newydd mae Cymorth i Brynu yn "hanfodol" gan fod Llywodraeth Cymru eisiau adeiladu 6,000 o dai newydd erbyn 2021.

Image copyright Getty Images
Image caption Mae Alan Darlow o asiantaeth dai Roberts yn dweud fod diffyg tai ail law ar gael yng Nghasnewydd

Ond mae rhai arbenigwyr eiddo yn credu y byddai'r farchnad dai cyfan yn elwa petai'r cynllun yn cael ei ymestyn i gynnwys tai ail law - nid dim ond rhai newydd.

Roedd Llywodraeth y DU yn cynnig cynllun Gwarantu Morgais Cymorth i Brynu, ond daeth hwnnw i ben ym mis Rhagfyr 2016.

"Roedd prynwyr tai ail law yn arfer gallu cael cymorth gan y llywodraeth," meddai Martin Roberts, cyflwynydd rhaglen Homes Under The Hammer y BBC.

"Hoffwn i weld y cynllun yna'n dychwelyd neu'n cael ei ehangu fel bod croestoriad ehangach o bobl yn gallu cael cymorth."

'Mwy yn y dinasoedd'

Casnewydd yw un o'r ardaloedd sydd wedi gweld y nifer fwyaf o bobl yn manteisio ar y cynllun Cymorth i Brynu, gyda 996 bellach wedi manteisio ar y cynnig gan Lywodraeth Cymru.

Serch hynny mae Alan Darlow, arwerthwr tai o gwmni Roberts yn y ddinas, yn credu fod angen i'r cynllun helpu'r farchnad dai yn ehangach.

"Petai e'n cynnwys yr holl farchnad byddech chi'n gweld tai sydd eisoes wedi sefydlu yn cael eu gwerthu," meddai.

"Wrth werthu'r rheiny, gallai pobl yn y tai hynny symud i dai mwy a byddai'r ardaloedd hynny yn gallu adfywio'n naturiol."

Image caption Dim ond tai newydd sydd yn gymwys ar hyn o bryd ar gyfer 'Cymorth i Brynu'

Mae'r cynllun hefyd yn golygu fod datblygwyr tai newydd yn tueddu i ganolbwyntio ar ardaloedd ble mae'n haws i'w gwerthu dan y cynllun.

Hyd yn hyn dim ond 12 person sydd wedi defnyddio Cymorth i Brynu yng Ngheredigion mewn tair blynedd a hanner, a dim ond 15 sydd wedi ar Ynys Môn.

"Mae'n gynllun da ond mae'n anodd i bobl fanteisio arno pan nad yw tai newydd yn cael eu codi yn yr ardaloedd hynny," meddai Layla Mangan, partner yn asiantaeth dai Alexanders yn Aberystwyth.

"Yng Ngheredigion yn y deng mlynedd diwethaf, dim ond tri neu bedwar safle 'dyn ni wedi cael. Mae cynllunio yn anodd ym mhobman a gwraidd y broblem yw nad yw datblygwyr yn adeiladu ar ddigon o'n tir."

Mwy i ddod

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y cynllun fel y mae "wedi helpu llawer o brynwyr tro cyntaf i esgyn yr ysgol dai".

"Mae hefyd wedi annog rhagor o adeiladu, gan olygu budd i'r diwydiant tai a'r economi ehangach yng Nghymru," meddai llefarydd.

"Rydyn ni'n buddsoddi £290m yn ail ran y cynllun i gefnogi adeiladu dros 6,000 o dai - rhan o'n targed i adeiladu 20,000 yn rhagor o dai fforddiadwy yn ystod y llywodraeth hon.

"Mae hyn yn adlewyrchu llwyddiant y cynllun wrth ddarparu llwybr tuag at berchnogaeth tai fforddiadwy."