Arestio dyn wedi ymgais i gipio merch fach dair oed

pafiliwn jade jones Image copyright Jaggery/Geograph
Image caption Dywedodd yr heddlu fod yr ymgais i gipio'r ferch wedi digwydd ger Pafiliwn Jade Jones yn Y Fflint

Mae dyn 50 oed wedi cael ei gadw yn y ddalfa yn dilyn ymgais i gipio plentyn yn Y Fflint.

Cafodd Heddlu'r Gogledd eu galw toc cyn 14:00 brynhawn Sul yn dilyn adroddiad fod dyn wedi ceisio cipio merch dair oed ger Pafiliwn Jade Jones yn y dref.

Pan gyrhaeddodd yr heddlu roedd aelodau o'r cyhoedd eisoes wedi dal y dyn, ac fe gafodd ei arestio gan y swyddogion.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Arwyn Jones: "Hoffwn dawelu meddyliau'r cyhoedd fod y plentyn yn saff gyda'i theulu, a bod y dyn yn parhau yn y ddalfa.

"Hoffwn hefyd ddiolch i aelodau'r cyhoedd wnaeth ymateb mor sydyn i ddal y dyn cyn i'r heddlu gyrraedd. Megis dechrau y mae ein hymchwiliad, ac rydym yn ystyried pob posibiliad."

Ychwanegodd fod yr heddlu'n awyddus i unrhyw un a welodd unrhyw beth i gysylltu â nhw.