Galw ambiwlans awyr i wrthdrawiad ar yr A55

ambiwlans awyr Image copyright Twitter/@JS2Tango

Mae rhan o'r A55 wedi cau yn dilyn gwrthdrawiad ger Twnnel Conwy.

Cafodd yr heddlu a'r ambiwlans awyr eu galw i'r digwyddiad rhwng cyffordd 18 ac 19, yn dilyn gwrthdrawiad am tua 17:00 ddydd Sul.

Mae Twnnel Conwy i gyfeiriad y gorllewin wedi cau, ac mae oedi hir i deithwyr yn y cyffiniau.

Cafodd y twnnel i gyfeiriad y gorllewin ei gau am gyfnod hefyd tra bod yr ambiwlans awyr yn glanio a chodi.

Mae Heddlu'r Gogledd yn diweddaru teithwyr ar Twitter ac yn eu cynghori i ddefnyddio ffyrdd eraill os yn bosib.