Abertawe a Hull yn cytuno ar ffi am Sam Clucas

Clucas Image copyright Rex Features

Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi cytuno ar ffi gyda chlwb Hull am y chwaraewr canol cae Sam Clucas.

Cafodd cynnig cyntaf yr Elyrch o £12m am Clucas ei wrthod, ond ni wnaeth chwarae i Hull yn eu gêm yn erbyn QPR yn y Bencampwriaeth ddydd Sadwrn, gyda rheolwr Hull, Leonid Slutsky, yn dweud ei fod "yn paratoi i chwarae i glwb arall".

Bydd angen i Clucas, sy'n 26 oed, basio prawf meddygol a chytuno ar dermau personol gyda'r Elyrch cyn cwblhau'r trosglwyddiad.

Mae Abertawe yn chwilio am chwaraewyr i lenwi'r bwlch wedi ymadawiad Gylfi Sigurdsson i Everton am £45m.