Galw i fuddsoddi mwy i gadw graddedigion yng Nghymru

Graddio
Image caption Llwyddodd Cymru i ddenu 23,807 o raddedigion rhwng 2013 a 2016, ond fe adawodd 44,335

Dylai'r llywodraeth a chyflogwyr fuddsoddi mwy mewn creu swyddi ar gyfer graddedigion er mwyn cadw mwy ohonyn nhw yng Nghymru, yn ôl cyn-bennaeth prifysgol.

Daw sylwadau'r Athro Syr Deian Hopkin wedi i adroddiad gael ei gyhoeddi sy'n awgrymu bod mwy o raddedigion yn gadael Cymru na'r hyn sy'n dod yma o rannau eraill o Brydain.

Yn ogystal, mae'r canran o raddedigion mewn swyddi ble nad oes angen gradd yn uwch yng Nghymru nag unrhyw ranbarth neu genedl arall.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod angen buddsoddi er mwyn i Gymru ffynnu a thyfu a chreu yr amodau economaidd a fydd yn arwain at greu swyddi o ansawdd uchel.

Miloedd yn gadael

Mae'r adroddiad gan fudiad y Resolution Foundation yn dangos bod 40.6% o raddedigion Cymreig, gafodd addysg uwch yng Nghymru ac sydd wedi aros yma, yn gwneud gwaith lle nad oes angen addysg uwch i wneud y swydd.

Yr Alban oedd yn yr ail safle gyda 40.3%.

Llwyddodd Cymru i ddenu 23,807 o raddedigion rhwng 2013 a 2016, ond fe adawodd 44,335 - gwahaniaeth o 20,528.

Image caption Yn ôl Syr Deian Hopkin does dim digon o swyddi i gadw graddedigion yng Nghymru

Dim ond yn Swydd Efrog a Humber (23,115) ac yng ngogledd-ddwyrain Lloegr (22,543) oedd y ffigyrau'n uwch.

Mae'r Athro Syr Deian Hopkin - cyn is-ganghellor prifysgol London South Bank - yn dweud bod gwaith ar gyfer graddedigion yn y sector cyhoeddus wedi crebachu tra bod meysydd eraill ddim wedi creu cymaint o swyddi addas newydd.

Diffyg gwaith

"Y casgliad 'y ni'n dod iddi ydy bod 'na ddiffyg cyflogaeth i raddedigion yng Nghymru a dyna efallai sy'n gyfrifol am y nifer sydd yn gadael - does dim swyddi yma," meddai.

Ychwanegodd yr hanesydd, sy'n aelod o gomisiwn sy'n ymchwilio polisïau addysg uwch: "Mae hwn yn gylch anodd iawn i'w gau, achos fe ddylai llywodraeth fod yn buddsoddi mwy a mwy i greu swyddi o'r fath i ddenu ac i gadw graddedigion yma yng Nghymru.

"Ond os nad ydy cyflogwyr yn buddsoddi ar yr un pryd mae 'na gyfyngder ar lywodraeth - allan nhw ddim neud cymaint â hynny.

"Y gwir amdani ydy, wrth gwrs, mae Cymru - fel amryw lefydd eraill yn Lloegr - ar ymylon yr economi sy'n tyfu.

"Ac 'y ni nawr yn ymwybodol o'r ffaith bod y de-ddwyrain a Llundain wedi bod yn tyfu yn syfrdanol a hynny wrth gwrs yn creu dioddefaint i bobl eraill."

Sawl ffactor

Dywedodd awdur yr adroddiad, Stephen Clarke o'r Resolution Foundation, nad oedd y ffigyrau'n dangos pa fath o raddedigion oedd yn gadael Cymru na'u hoedran nhw.

"Yn yr achos yna, mae'r gair 'brain drain' efallai'n addas, ac fe ddylai hynny fod yn gonsyrn," meddai.

"Mae'n werth dweud bod 'na lefydd eraill yn y wlad sy'n gweld hyn ac efallai nid dim ond yr economi sy'n gyfrifol. Efallai bod rhesymau daearyddol a chymdeithasol hefyd."

Image copyright Thinkstock
Image caption Mae'r adroddiad yn dangos bod dros 40% o raddedigion Cymreig mewn swyddi lle nad oes angen gradd i wneud y gwaith

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Er bod ein graddedigion yn debyg i lawer o rannau eraill o'r DU, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i wneud y buddsoddiad sydd ei angen i Gymru ffynnu a thyfu a chreu yr amodau economaidd a fydd yn arwain at y swyddi o ansawdd uchel.

"Mae ein hymateb i'r adolygiad Diamond yn cynnwys datblygu cyfleoedd i bobl ifanc a diwallu anghenion sgiliau Cymru.

Mae'r llywodraeth yn cydnabod bod cynnig cymhellion i raddedigion barhau, neu ddychwelyd i weithio yng Nghymru yn gallu bod yn rhan o hyn.

Ychwanegodd y llefarydd: "Rydym yn gweithredu yn y maes yma, gan gynnwys ymrwymiad o'r newydd i'r rhai sy'n derbyn bwrsariaethau nyrsio i weithio yn y GIG yng Nghymru, a byddant yn parhau i archwilio opsiynau eraill."