Carwyn Jones yn cwrdd â Nicola Sturgeon i drafod Brexit

Carwyn Jones a Nicola Sturgeon Image copyright Getty Images

Mae Prif Weinidogion Cymru a'r Alban wedi dweud y byddan nhw'n gweithio gyda'i gilydd er mwyn cynnig gwelliannau i fesur Llywodraeth Prydain ar adael yr Undeb Ewropeaidd er mwyn amddiffyn datganoli.

Mewn cyfarfod yng Nghaeredin ddydd Mawrth bu Carwyn Jones a Nicola Sturgeon yn trafod eu gwrthwynebiad i ddeddfwriaeth Brexit gan Lywodraeth y DU.

Mae'r ddeddfwriaeth, fydd yn trosglwyddo cyfraith yr Undeb Ewropeaidd i gyfraith y Deyrnas Unedig, yn ymgais gan San Steffan i "gipio pwerau" yn ôl Mr Jones.

Yn ôl gweinidogion yng Nghymru a'r Alban mae eu dadleuon wedi bod yn cael eu hanwybyddu yn gyson yn ystod proses Brexit.

Mae Llywodraeth y DU yn mynnu y bydd gan y gwledydd datganoledig fwy o gyfrifoldebau yn dilyn Brexit.

Datganiad

Mewn datganiad ar ôl y cyfarfod, dywedodd y ddau arweinydd eu bod nhw wedi cytuno i gyd-lynnu y wybodaeth fydd yn cael ei rannu â'r Cynulliad Cenedlaethol a Senedd yr Alban er mwyn "sicrhau bod y ddau sefydliad yn llwyr ymwybodol o beryglon mesur Llywodraeth Prydain a'r newidiadau sy'n cael eu cynnig".

"Yn ddiweddar mae Llywodraeth Prydain wedi cyhoeddi papurau yn amlinellu eu gofynion nhw ar wahanol faterion, gan gynnwys ar faterion sydd o bwys i Gymru a'r Alban, ond nid yw'r papurau yma wedi cael eu paratoi mewn ymgynghoriad gyda'r llywodraethau datganoledig.

"Yn ddi-os mae'r mesur yma yn ymgais i ganoli grym yn San Steffan, gan dorri ar draws pwerau a chyfrifoldebau sydd eisoes wedi cael eu datganoli.

"Mae llywodraethau Cymru a'r Alban o'r farn na ddylsai'r Mesur gael ei ystyried yn ei ffurf bresennol".

'Trefniant dros dro'

Ym marn Mr Jones a Ms Sturgeon, bwriad Llywodraeth y DU ydy cymryd cyfrifoldeb dros bwerau sydd wedi eu datganoli ond sy'n gorwedd ym Mrwsel - materion fel amaeth a physgota.

Ond mae'r llywodraeth yn dweud mai "trefniant dros dro" yw hyn ac y bydd hyn wedyn yn caniatáu datganoli mwy o bwerau.

Image copyright PA

Cyn y trafodaethau, mae'r ddau brif weinidog wedi dweud bod siarad ag un llais yn ei gwneud hi'n glir na all Llywodraeth y DU "orfodi ei hewyllys" ar rannau eraill o'r Deyrnas Unedig.

Maent hefyd yn dweud na allan nhw argymell bod eu seneddau yn rhoi sêl bendith ar gyfer y ddeddfwriaeth Brexit fel y mae ar hyn o bryd.

'Barod i ddod ynghyd'

Dywedodd Mr Jones fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir eu bod yn "barod i ddod ynghyd i weithio'n adeiladol gyda Llywodraeth y DU i geisio cytuno ar drefniadau'r dyfodol".

"Ond mae eu hymddygiad dros yr ychydig fisoedd diwethaf wedi dangos nad oes ganddynt unrhyw awydd gwirioneddol i dderbyn y gwahoddiad," meddai.

Yr un math o sylwadau oedd gan Ms Sturgeon, ddywedodd ei bod yn "amhosibl" argymell bod Senedd Yr Alban yn pleidleisio o blaid y ddeddfwriaeth.

"Rydym wedi dweud dro ar ôl tro ein bod yn fodlon cynnal trafodaeth adeiladol am drefniadau'r dyfodol gyda Llywodraeth y DU," meddai.

"Ond rhaid i hyn ddigwydd drwy gytundeb a phartneriaeth yn hytrach na gorfodaeth."