Carcharu dyn am ddwyn o siop wedi gwisgo fel gwrach

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Cafodd y digwyddiad ei ffilmio ar gamera cylch cyfyng y siop

Mae dyn wedi'i garcharu am oes wedi iddo ddefnyddio cyllell i ddwyn o archfarchnad pan oedd wedi gwisgo fel gwrach.

Roedd Nicholas Overton, 39, yn gwisgo'r wisg ffansi mewn ymgais i beidio cael ei adnabod wrth iddo ddwyn o siop Co-op yng Nghasnewydd ar 7 Gorffennaf.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd ei fod wedi teithio o Lundain, a'i fod wedi defnyddio machete yn ystod y digwyddiad.

Plediodd yn euog i ddwyn, bod ag arf bygythiol a gyrru'n beryglus, a bydd rhaid iddo dreulio isafswm o bedair blynedd dan glo.

Image copyright Gwent Police

Clywodd y llys bod Overton wedi ei gael yn euog o fwy na 20 o ladradau yn y gorffennol.

Fe wnaeth Overton ddwyn arian o'r archfarchnad ond cafodd ei ddal wedi i siopwyr nodi rhif cofrestru ei gar.

Cafodd ei ddilyn gan yr heddlu yn gwneud 70mya mewn ardal 30mya cyn i'r llu lwyddo i ddod a'r car i stop.

Fe gafodd Overton ei ddarganfod yn cuddio mewn gardd gerllaw.

Straeon perthnasol