Cwpan y Gynghrair: Leeds United 5-1 Casnewydd

roofe Image copyright Huw Evans picture agency

Mae Leeds United wedi sicrhau buddugoliaeth yn erbyn Casnewydd yng Nghwpan y Gynghrair nos Fawrth, wrth i'r Gwynion ennill o 5-1 yn Elland Road.

Fe ddaeth llwyddiant Leeds United, diolch i dair gôl gan Kemar Roofe, tra llwyddodd Samu Saiz a Ronaldo Viera hefyd i roi'r bêl yng nghefn y rhwyd.

Wedi dweud hynny, roedd Casnewydd wedi dechrau'r gêm yn addawol, ac fe roddodd y capten, Josh Labadie yr ymwelwyr ar y blaen ar ôl 33 munud, yn dilyn camgymeriad gan y gôl-geidwad cartref, Rob Green.

Ond ychydig cyn hanner amser fe ddechreuodd Leeds ymosod yn ddidrugaredd ar Yr Alltudion, gan gipio'r fuddugoliaeth a chnocio Casnewydd allan o'r gystadleuaeth.