Prinder gwarchodwyr plant gorllewin Cymru'n 'her gyson'

Childcare Image copyright PA

Mae prinder gwarchodwyr plant yn y mwyafrif o siroedd gorllewin Cymru, yn ôl ymchwil gan BBC Cymru Fyw.

O'r pum cyngor yng ngorllewin y wlad - Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion, Sir Penfro a Sir Gaerfyrddin - dywedodd pedwar bod bylchau mewn gwasanaethau mewn ardaloedd trefol ac yng nghefn gwlad.

Dywedodd Cyngor Sir Gâr bod cadw gwarchodwyr plant presennol a denu rhai newydd "yn her gyson", tra bod ystadegau Cyngor Gwynedd yn awgrymu bod "gostyngiad sylweddol [wedi bod] yn nifer y gwarchodwyr plant yn ardaloedd y de".

Daw'r ymchwil ar ôl i Gyngor Ceredigion gyhoeddi y bydd yn ceisio annog mwy o bobl i gynnig gwasanaeth gwarchod, ar ôl i asesiad ddangos bod y sir yn brin o 20 o warchodwyr cofrestredig.

Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru bod rheoli a chynllunio gofal plant yn "bwysicach nag erioed" wrth i gyllidebau "grebachu".

'Nifer yn dadgofrestru'

Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin yn dweud bod diffyg gwarchodwyr plant yn nhrefi Caerfyrddin, Y Tymbl, a rhai ardaloedd yn Rhydaman a Llanelli.

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Gwasanaethau Plant: "Bob blwyddyn rydym yn anelu at gael 18 o warchodwyr plant newydd wedi eu cofrestru.

"Yn flynyddol mae nifer o warchodwyr plant yn dewis dadgofrestru am resymau amrywiol. Felly, mae cadw gwarchodwyr plant presennol a denu rhai newydd yn her gyson."

Yng Ngheredigion, bydd y cyngor yn cynnal sesiwn friffio ym mis Medi er mwyn ceisio denu mwy o warchodwyr.

Dywedodd y cyngor mewn datganiad wrth Cymru Fyw: "Mae 54 o warchodwyr plant cofrestredig yng Ngheredigion.

"Mae saith yn cynnig gwasanaeth cyfrwng Cymraeg, 11 yn ddwyieithog, y mwyafrif o'r gweddill yn cynnig gwasanaeth Saesneg gydag elfennau o ddwyieithrwydd. Mae tua saith yn gyfrwng Saesneg yn unig.

"Mae angen gofalwyr cofrestredig ychwanegol ledled y sir, ond mae angen penodol yn Aberteifi, Aberaeron, Aberystwyth a Thregaron."

'Cyfle gwych'

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet dros Dechrau'n Deg a Tîm o Amgylch y Teulu Ceredigion: "Mae angen mwy o warchodwyr plant arnom yn y sir.

"Mae'r sesiwn friffio yma'n gyfle gwych i unrhyw un sy'n teimlo fel gall fod yn warchodwr plant fod yn yrfa iddynt."

Mae ymchwil Cyngor Gwynedd, gafodd ei gyhoeddi yn Rhagfyr 2016, yn dangos "trosiant uchel iawn o gofrestriadau gwarchodwyr plant o gymharu â mathau eraill o ofal plant".

Ychwanegodd y cyngor: "Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, cawsom 19 o warchodwyr plant yn cofrestru gydag AGGCC, ond yn ystod y cyfnod hwn, mae 30 o warchodwyr plant wedi canslo eu cofrestriadau, gan roi i ni golled net o 11 o warchodwyr plant."

Mae'r ymchwil hefyd yn dangos bod "dim ond tri o warchodwyr plant yn gweithio mewn un lleoliad cofrestredig" yn ardal Dolgellau gyfan, ac mai "dewis cyfyngedig o warchodwyr plant sydd mewn llawer ardal wledig, yn enwedig pen draw Llŷn, ac yn ardaloedd Penllyn a Thywyn".

Image copyright Getty Images

Mae Cyngor Môn yn dweud bod nifer gofalwyr plant wedi gostwng o 63 yn 2014 i 50 yn 2016.

Dywedodd y cyngor y byddai'n gweithio gyda nifer o awdurdodau er mwyn cynyddu nifer y gwarchodwyr, gyda'r bwriad o gynyddu'r nifer o bum pob blwyddyn am y pum mlynedd nesaf mewn ardaloedd gwledig.

Dywedodd Cyngor Sir Benfro nad oes bylchau amlwg yn y ddarpariaeth gofal plant yn y sir, a bod 16 o bobl wedi dangos diddordeb mewn mynychu sesiwn friffio ym mis Medi.

Gwaith papur yn 'bwysau mawr'

Ond mae rhai gwarchodwyr yn rhybuddio bod y gwaith papur sydd ynghlwm â'r gwaith mor feichus bod pobl newydd yn penderfynu peidio ymgymryd â'r gwaith.

"Pan nes i ddechrau, o'dd rhywun yn dod allan i wneud inspection, a chi mwy neu lai yn gallu dechre'n syth", meddai Meinir Wyn, sydd wedi bod yn gwarchod plant yn Aberystwyth ers 16 o flynyddoedd.

"Nawr mae cwrs cyn 'neud y swydd, ac os oes rhywun yn gweithio llawn amser falle nag 'yn nhw yn gallu cael amser off gwaith i wneud y cwrs 'ma.

"Mae lot o pressure achos hynny, fi'n credu."

Image caption Mae Meinir Wyn yn warchodwr plant yn Aberystwyth ers 16 mlynedd

Ychwanegodd: "Ni'n gorfod gwneud risk assesments os ni'n mynd allan pob dydd, contracts i'r plant, ni'n cael inspections sydd ddim yn announced, lle o'r blaen o'dd rhywun yn rhoi gw'bod i chi cyn dod allan.

"Mae jyst lot o waith papur really sy'n bwysau mawr. Chi jyst yn gorfod cadw 'mlaen i wneud e'n aml, jyst gwneud e bob wythnos, fel bod e lan i safon AGGCC.

"Dweud 'na, wy'n joio mas draw. Mae bod gyda'r plant, a gweld nhw mewn blynydde' pan ma nhw 'di tyfu fyny, a gweld beth ma' nhw'n gallu gwneud, mae jyst yn bleser gweld rhai o' nhw, a be' mae nhw 'di cyflawni."

'Datblygu atebion blaengar'

Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru bod awdurdodau lleol yn "cydnabod yr angen" i fuddsoddi mewn gofal plant mewn modd "cyd-gysylltiedig a chydlynol".

Dywedodd y llefarydd bod "pob awdurdod lleol yn gweithio'n galed yn eu rôl strategol i gydlynu darpariaeth gofal plant".

Mae hynny er mwyn "datblygu atebion blaengar sydd yn cwrdd ag anghenion lleol, ac i sbarduno ffyniant cynaliadwy yn y sector gofal plant i sicrhau bod cyn gymaint o deuluoedd a phosib yn gallu cael mynediad at ofal plant fforddiadwy, cynaliadwy ac o safon uchel".

Straeon perthnasol